Toglo gwelededd dewislen symudol

​​​​​​​Arddangosfa'n dathlu bywyd ffermio yn Abertawe

Mae "Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr" yn brosiect sy'n dogfennu ac y dathlu treftadaeth ffermio leol.

Andrew Oliver Slade Farm

Andrew Oliver Slade Farm

Bydd cipolygon ar fywyd ffermio lleol yn cael eu harddangos mewn arddangosfa arbennig yn Abertawe yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae "Straeon a Thirwedd Newidiol" sydd ar ffurf delweddau a sain gan y gwneuthurwr ffilmiau dogfen Florence Browne a'r ffotograffydd Callum Baker, yn ymhelaethu ar leisiau a phrofiadau ffermwyr yn ardaloedd gwledig Abertawe a Gŵyr.

Y gobaith yw y bydd yr arddangosfa hon yn creu pwynt cyswllt ar gyfer gweithwyr amaethyddol sy'n cael trafferth gyda rhai o'r materion yr edrychwyd arnynt, ac yn rhoi cipolwg i'r cyhoedd ar fywydau'r rheini sy'n bwydo'r wlad.

Gellir gweld yr arddangosfa yng Nghlwb Chwaraeon De Gŵyr o ddydd Mercher 26 Hydref ii ddydd Iau 27 Hydref 10.00am-6.00pm, Sefydliad Pontarddulais, Dydd Mawrth 1 Tachwedd i ddydd Iau 3 Tachwedd 11.00am-5.00pm, ac Amgueddfa Abertawe, Dydd Mawrth i ddydd Sul 29 Ionawr yn ystod oriau agor arferol.

Meddai Hamish Osborn, Cadeirydd Rhaglen Datblygu Abertawe Wledig,

"Mae'r arddangosfa deimladwy hon yn rhan o brosiect ehangach sy'n edrych ar heriau a llwyddiannau gweithio'r tir a sut mae arferion ffermio wedi newid ar hyd y blynyddoedd. Mae'n cysylltu hefyd â gwasanaethau cefnogi sy'n benodol i'r sector ar gyfer y rheini sydd efallai'n dioddef yn dawel.

"Mae Iechyd Meddwl wedi bod yn bwnc tabŵ am lawer gormod o amser. Mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn wynebu heriau penodol o ran unigrwydd enbyd ac ynysu cymdeithasol a all effeithio ar ansawdd bywyd, iechyd a hapusrwydd.

"Maen nhw'n aml yn cael trafferth cael mynediad at wasanaethau cefnogi allweddol oherwydd y diffyg darpariaeth iechyd meddwl mewn lleoliadau anghysbell. Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn tynnu sylw at y ddarpariaeth sydd ar gael yn ardal Abertawe ac yn annog preswylwyr a gweithwyr gwledig i deimlo'n fwy hyderus wrth ofyn am gymorth."

Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd,

"Mae hwn yn brosiect mawr ei angen ac rwy'n teimlo anrhydedd mawr i fod yn rhan ohono.

"Fel ffermwr sydd â chysylltiadau agos â'r gymuned ffermio ar draws Abertawe, rwy'n gwbl ymwybodol o sut mae effeithiau newidiadau yn yr hinsawdd a'r farchnad fyd-eang yn effeithio'n negyddol ar yr economi wledig leol. Ar y cyd â'r unigedd a achoswyd gan bandemig COVID, effeithiwyd yn anghymesur ar y rheini sy'n byw yn Abertawe wledig.

"Rwy'n gobeithio y bydd yr arddangosfa hon sy'n ysgogi'r meddwl, y ffilm wybodaeth gysylltiedig a'r adnoddau ategol yn annog y rheini mewn angen i ofyn am help.

"Rwy'n ddiolchgar iawn i'r ffermwyr hynny o Abertawe sydd wedi cynnig rhannu eu profiadau er lles eraill."

Mae Grŵp Gweithredu Lleol PDG Abertawe yn ddiolchgar i nifer o'i sefydliadau partner, sef Rhwydwaith y Gymuned Ffermio, Sefydliad DPJ, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Bangor a RABI am eu holl fewnbwn ar ddatblygu'r comisiwn, a'u cefnogaeth barhaus.

Mae ystod o adnoddau i helpu i gefnogi'r rheini sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael, sydd ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/RhDGiechydmeddwl

Rhaglen saith mlynedd Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig yw'r RhDG a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a rhaglen Cymunedau Gwledig - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ddaw i ben yn 2023.

Rhagor o wybodaeth: More: Rhaglen Datblygu Gwledig Abertawe - https://www.abertawe.gov.uk/RhDG a www.facebook.com/rdpleader/

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Hydref 2022