Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o gyllid yn cael ei ddyfarnu i brosiectau gwledig arloesol

Mae dwy fenter yn Abertawe'n dathlu ar ôl iddynt dderbyn arian gan y Rhaglen Datblygu Gwledig.

RDP wellbeing campaign

Gall meddygon teulu a gweithwyr iechyd eraill yng Ngŵyr roi presgripsiynau ar gyfer cyrsiau byw yn y gwyllt yn y gwylltir i helpu i roi hwb i iechyd a lles pobl.

Dan gynllun arloesol newydd, bydd pobl y mae angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol arnynt yn gallu mynd i gyrsiau hyfforddiant coetirol a gynhelir gan sefydliad lleol sef Cwmni Buddiannau Cymunedol (CBC) Dryad Bushcraft, os bydd eu hymarferwyr iechyd y GIG gwledig, lleol a'u cydlynwyr gwledig CGGA yn rhoi presgripsiwn iddynt am hynny.

Mae'r fenter yn un o'r ddau brosiect diweddaraf sy'n cael eu hariannu gan Bartneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe (PDG) y bwriedir iddynt gefnogi cymunedau yn ardaloedd gwledig Abertawe.

Mae'r cynllun Lles drwy Goedwriaeth yn brosiect peilot sy'n cael ei ariannu gyda £10,000 o gymorth gan y RhDG.

Ei nod yw hyrwyddo lles drwy natur, gan geisio dangos effeithiolrwydd yr ymagwedd presgripsiynu cymdeithasol newydd a blaengar at ddarparu cefnogaeth i unigolion y mae pandemig COVID a'r cyfnodau clo dilynol wedi cael effaith andwyol arnynt.

Bydd CBC Dryad Bushcraft, sydd â gweithdy yng Nghoed y Parc, yn cynnig rhaglen gweithgareddau'r coetir drwy bresgripsiynu cymdeithasol a chyflwyno cyfres o ddeuddeng sesiwn lles awyr agored.

Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau byw yn y gwyllt a chrefft y goedwig sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer pobl sydd wedi profi anawsterau yn ystod y pandemig. 

Mae £9,034.21 pellach wedi'i ddyfarnu i Gyngor Cymuned Rhosili i ddatblygu Hwb Cymunedol Rhosili. Bydd y prosiect hwn yn gwella cadernid cymdeithasol y gymuned ac yn lleihau unigrwydd i'r rheini nad ydynt yn gallu mynd ar-lein.

Bydd y prosiect yn darparu llwyfan cyfathrebu rhyngweithiol a chynaliadwy 'siop dan yr unto' sy'n canolbwyntio ar faterion lleol yn ogystal â materion perthnasol ehangach fel iechyd, lles a'r amgylchedd. Caiff mynediad at yr adnodd ei gefnogi drwy hyfforddiant sgiliau TG pwrpasol, i ddiwallu anghenion y gymuned yn awr ac yn y dyfodol.

Bydd Hwb Cymunedol Rhosili yn adeiladu cadernid a chydlyniant cymunedol yn Rhosili a'r cymunedau o'i gwmpas, gan alluogi'r rheini sydd wedi'u heithrio'n ddigidol a chael cyn lleied â phosib o effaith ar yr amgylchedd.

Dywedodd Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd y byddai'r grantiau'n gwneud cyfraniad pwysig i fywyd cymunedau gwledig yn Abertawe.

"Rwy'n byw mewn ardal wledig ac rwy'n ymwybodol iawn o'r buddion lles niferus a geir o gael rhai o'r ardaloedd gwledig gorau ar fy stepen drws.

"Mae'r rheini sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn wynebu heriau penodol o ran unigrwydd enbyd ac ynysu cymdeithasol a all effeithio ar ansawdd bywyd, iechyd a hapusrwydd.  Bydd ffocws y ddau brosiect hyn sef lleihau ynysu cymdeithasol a chefnogi lles y rheini y mae cyfnodau clo'r pandemig wedi effeithio arnynt yn dod â buddion sylweddol ac yn helpu'r adferiad wedi COVID-19."

Nid yw Lles drwy Goedwriaeth yn ymwneud â throi pobl yn Ray Mears. Mae'n ymwneud ag annog pobl i gymryd amser a lle mewn amgylchedd dysgu awyr agored i wella'u hiechyd a'u lles ochr yn ochr ag unrhyw ofal arall y gallant fod yn ei dderbyn gan y GIG.

"Mae'n syniad newydd cyffrous ac mae'r RhDG yn edrych ymlaen at weld sut hwyl gaiff y cynllun peilot." 

Rhaglen saith mlynedd Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig yw'r RhDG a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a rhaglen Cymunedau Gwledig - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ddaw i ben yn 2023.

Rhagor o wybodaeth: Rhaglen Datblygu Gwledig Abertawe- https://www.abertawe.gov.uk/RhDG a www.facebook.com/rdpleader/

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Medi 2022