Toglo gwelededd dewislen symudol

Haf hir cynnes yn arwain at gynnydd yn nifer y digwyddiadau ar gyfer Achubwyr Bywydau'r RNLI a gefnogir gan y cyngor

Cynorthwywyd cannoedd o bobl gan Achubwyr Bywydau, a ariennir yn rhannol gan Gyngor Abertawe, ar draethau penrhyn Gŵyr yr haf diwethaf.

RNLI in Gower

RNLI in Gower

Roedd y 50 o achubwyr bywydau - a ddarperir gan elusen achub bywyd yr RNLI - wedi helpu'r rheini mewn perygl yn Langland, Caswell, Porth Einon a Bae y Tri Chlogwyn.

Mae ystadegau'n dangos bod eu help wedi amrywio o achub pobl ar y dŵr i gymorth cyntaf ar gyfer digwyddiadau fel cwtau a phigiadau. Roedd gweithwyr yr RNLI hefyd wedi treulio llawer o amser ar waith ataliol.

Roedd y cynnydd yn nifer y digwyddiadau'n adlewyrchu'r cynnydd yn nifer y bobl a oedd yn defnyddio'r traeth o ganlyniad i dywydd da yn ystod yr haf a chynnydd yn y niferoedd a oedd yn treulio'u gwyliau gartref ar ôl y pandemig.

Gyda gweithgareddau y tu allan i'r tymor, fel nofio mewn dŵr oer, yn cynyddu mewn poblogrwydd, anogir ymwelwyr a phreswylwyr i gadw'n ddiogel o amgylch yr arfordir a ger afonydd drwy'r flwyddyn. 

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae gennym arfordir o'r radd flaenaf - ac rydym am i breswylwyr ac ymwelwyr aros yn ddiogel. Mae ariannu achubwyr bywydau'n un ffordd y gallwn ddiogelu pobl."

Meddai cyd-aelod y cabinet Andrew Stevens , "Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos ag Achubwyr Bywydau medrus yr RNLI i sicrhau bod y pedwar traeth poblogaidd iawn hyn yn cael eu goruchwylio yn ystod y cyfnod prysuraf." 

Meddai goruchwyliwr achubwyr bywydau'r RNLI,Tom John, "Mae gennym arfordir bendigedig ac mae'n wych gweld cynifer o bobl yn mwynhau'r traethau. Rydym am i bobl fwynhau'r arfordir - ond mewn ffordd ddiogel a chyfrifol.

"Dylai pobl gymryd gofal ychwanegol wrth anelu am yr arfordir yn ystod y misoedd nesaf. Mae tymheredd y dŵr yn oer felly gwisgwch gyfarpar amddiffyn personol priodol ar bob adeg a gwiriwch y llanw, y tywydd ac amodau'r môr, a dylech ystyried sut gall y ffactorau hyn effeithio ar unrhyw daith arfaethedig.

"Yn ychwanegol, darllenwch arwyddion diogelwch wrth fynedfeydd ein traethau i gael gwybodaeth am beryglon lleol."

Llun: Achubwyr Bywydau'r RNLI yng Ngŵyr. Llun: RNLI

 

 

Close Dewis iaith