Gobaith am wobr ar gyfer prosiect adfywio'r gwaith copr
Mae cynllun adfywio a arweinir gan Gyngor Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau Gymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (RSAW) 2025.


Distyllfa a Chanolfan Ymwelwyr Gwaith Copr yr Hafod-Morfa yw un o'r pum prosiect sydd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr fawreddog, ac mae'n cynnwys gwaith a wnaed gan GWP Architecture ac Archer Humphryes Architects.
Roedd y prosiect yng Nglandŵr yn cynnwys trawsnewid ardal o dreftadaeth leol sylweddol a oedd wedi'i hesgeuluso.
Cyflwynwyd y prosiect gan Gyngor Abertawe a chwmni Penderyn, gan weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys John Weaver Contractors, Prifysgol Abertawe a Chyfeillion Gwaith Copr yr Hafod-Morfa. Roedd y prif gyllidwyr yn cynnwys Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.
Roedd y prosiectau eraill a gyrhaeddodd rhestr fer RSAW yn cynnwys prosiect i wneud gwelliannau trawiadol i ffermdy gwledig ym mhenrhyn Gŵyr a adeiladwyd tua 130 o flynyddoedd yn ôl, dau brosiect yng Ngwynedd ac un yng Nghasnewydd, Gwent.
Meddai cadeirydd panel gwobrwyo RSAW, Ian Chalk,"Mae gan bob prosiect a gyrhaeddodd y rhestr fer un peth yn gyffredin - maent yn meddwl y tu hwnt i ffiniau uniongyrchol y safle ac yn cyfoethogi'r lleoedd hyn a bywydau'r bobl sy'n byw ynddynt."
Caiff yr enillydd ei gyhoeddi yn y gwanwyn.