Digwyddiadau galw heibio i roi adborth am y weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth
Mae cyfres o ddigwyddiadau galw heibio wedi'u trefnu yn Abertawe i roi cyfle i bob leol gael dweud eu dweud am ddyfodol trafnidiaeth yn ne-orllewin Cymru.


Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal ledled y ddinas a bydd yn gyfle i bobl roi adborth yn bersonol am y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft sydd wedi'i ddatblygu ar gyfer Abertawe, Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro.
Nod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol drafft yw creu rhwydwaith trafnidiaeth mwy dibynadwy, cysylltiedig a hygyrch, sy'n fforddiadwy ac yn gyfleus.
Gydag adborth ar-lein hefyd ar gael yn http://www.cjcsouthwest.wales/2025consultation tan ganol nos, nos Sul 6 Ebrill, bydd y cynllun yn helpu i gefnogi cyflwyno rheilffordd a system metro bysus yn ne-orllewin Cymru.
Dyma restr o leoliadau, dyddiadau ac amserau'r digwyddiadau galw heibio yn Abertawe:
- Dydd Iau 20 Chwefror, 3pm - 7pm - Neuadd Bentref Reynoldston, Reynoldston
- Dydd Mawrth 25 Chwefror, 2pm - 6pm, Llyfrgell Gorseinon
- Dydd Gwener 28 Chwefror, 12pm - 5.30pm - Canolfan Ostreme y Mwmbwls
- Dydd Mercher 5 Mawrth, 10am - 4pm - Marchnad Abertawe
- Dydd Llun 10 Mawrth, 2pm - 6pm - Canolfan Hamdden Pen-lan
- Dydd Mercher 12 Mawrth, 11am - 3pm, Canolfan y Ffenics, Townhill
- Dydd Iau 13 Mawrth, 3.30pm - 7.30pm - Canolfan Hamdden Treforys
Meddai'r Cynghorydd Andrew Stevens, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "P'un a ydych yn cerdded, yn olwyno, yn beicio, yn dal bws neu drên neu'n gyrru, mae trafnidiaeth yn rhywbeth sy'n effeithio ar bawb yn Ne-orllewin Cymru.
"Dyma pam mae angen i ni gasglu eich barn i helpu i lunio cynllun trafnidiaeth rhanbarthol sy'n cynnwys Abertawe.
"Mae cannoedd o ymatebion eisoes wedi'u cyflwyno ar-lein, ond rydym yn ymwybodol y byddai'n well gan lawer o bobl drafod y cynllun a mynegi eu barn yn bersonol.
"Bydd y digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ar draws Abertawe'n helpu i ateb y galw hwnnw, a bydd digwyddiadau tebyg yn cael eu cyhoeddi mewn ardaloedd eraill yn ne-orllewin Cymru hefyd."
Daw'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol hefyd cyn Bil Gwasanaeth Bysiau Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o wella gwasanaethau bysus yng Nghymru, naill ai drwy roi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol drostynt neu drwy alluogi awdurdodau lleol i gynnal y gwasanaethau.
Mae hefyd yn cynnwys mentrau a phrosiectau y bwriedir eu rhoi ar waith rhwng 2025 a 2030.
Unwaith y bydd adborth wedi'i ystyried, bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i Gyd-bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru i'w gymeradwyo.
Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn cynnwys Arweinwyr Cyngor Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro , yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.