Toglo gwelededd dewislen symudol

Angen eich barn er mwyn gwella cludiant yn Ne-orllewin Cymru

Mae angen eich barn yn awr am weledigaeth newydd gyffrous ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth mwy dibynadwy, cysylltiedig a hygyrch yn Ne-orllewin Cymru.

RTP consultation image

RTP consultation image

Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft - sy'n cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe - hefyd yn ceisio sicrhau bod trafnidiaeth yn y dyfodol yn fforddiadwy ac yn gyfleus i greu mwy o opsiynau ar gyfer pobl leol.

Gydag adborth ar-lein ar gael yn awr yma tan ganol nos ddydd Sul 6 Ebrill, bydd y cynllun yn helpu i gefnogi cyflwyno system rheilffordd a system metro bysus yn Ne-orllewin Cymru.

Daw'r cynllun hefyd cyn Bil Gwasanaeth Bysiau Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o wella gwasanaethau bysus yng Nghymru, naill ai drwy roi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol drostynt neu drwy alluogi awdurdodau lleol i gynnal y gwasanaethau.

Yn ogystal ag adborth ar-lein ar y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft, cynhelir digwyddiadau wyneb yn wyneb yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe yn yr wythnosau sy'n dod.

Cyhoeddir manylion dyddiadau, amserau a lleoliadau'r digwyddiadau hyn cyn gynted ag y cânt eu cadarnhau.

Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft bellach yn cynnwys mentrau a phrosiectau y bwriedir eu rhoi ar waith rhwng 2025 a 2030.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Cadeirydd Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, "P'un a ydych yn cerdded, yn olwyno, yn beicio, yn dal bws neu drên neu'n gyrru, mae trafnidiaeth yn rhywbeth sy'n effeithio ar bawb yn Ne-orllewin Cymru.

Dyna pam rydym yn galw am farn cynifer o bobl â phosib am y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft fel y gall eich adborth helpu i lunio cynllun terfynol yn y dyfodol.

"Nid yw trafnidiaeth yn ymwneud â mynd o A i B yn unig - mae ein cymunedau'n dibynnu arni.

"Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wella cysylltedd wrth fynd i'r afael â heriau pwysig fel newid yn yr hinsawdd a fforddiadwyedd."

Roedd rownd ymgynghori flaenorol a gynhaliwyd yn ystod yr haf y llynedd wedi helpu i lywio'r cynllun.

Dangosodd adborth gan dros 800 o bobl ar y pryd fod cefnogaeth aruthrol am ragor o opsiynau cludiant cyhoeddus, cynnal a chadw ffyrdd yn well a gwneud trafnidiaeth yn fwy hygyrch i bobl mewn cymunedau gwledig.

Roedd y blaenoriaethau allweddol a nodwyd yn cynnwys gwneud bysus a threnau'n ddewisiadau mwy ymarferol na theithio mewn ceir preifat a sicrhau bod y system drafnidiaeth yn Ne-orllewin Cymru'n diwallu anghenion pob defnyddiwr.

Meddai'r Cynghorydd Darren Price, Cadeirydd Is-bwyllgor Trafnidiaeth y Cyd-bwyllgor Corfforedig, "Mae adborth gan bobl ar hyd a lled Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe wedi bod yn allweddol i ddatblygiad y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol hyd yn hyn - a bydd hynny'n parhau.

"Mae'r system drafnidiaeth yno i wasanaethu ein preswylwyr a'n busnesau, felly mae'n bwysig ein bod yn cael cymaint o adborth â phosib nawr bod y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft ar agor i ymgynghori arno.

"Drwy flaenoriaethu hygyrchedd, cynaliadwyedd a thwf economaidd, bwriadwn greu system drafnidiaeth yn Ne-orllewin Cymru sy'n ateb y galw presennol wrth ragweld heriau yn y dyfodol hefyd.

Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft yn cyd-fynd â Strategaeth Trafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cymru drwy ganolbwyntio ar leihau dibyniaeth ar gerbydau preifat, cynyddu'r defnydd o gludiant cyhoeddus, ac annog mwy o gerdded a beicio.

Caiff pob barn sy'n cael ei derbyn yn ystod y rownd ymgynghori bresennol ei hystyried cyn bod fersiwn derfynol y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol yn mynd gerbron Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru i'w chymeradwyo.

Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn cynnwys Arweinwyr Cyngor Sir Gâr, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Chwefror 2025