Nodwedd werdd newydd ar stryd yn y ddinas yn helpu her yr hinsawdd
Mae stryd breswyl ger glan môr Abertawe bellach yn gartref i fath newydd o osodiad a fydd yn creu lle i natur ac yn helpu i ymladd yn erbyn newid yn yr hinsawdd.


Gosodwyd gardd law Burrows Road gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Fe'i hariannwyd gan grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.
MeddaiAndrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Rydym yn falch iawn o gyflwyno'r ardd law. Mae'n gwella golwg y stryd a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth wella draenio, cefnogi bywyd gwyllt a darparu hafan drwy'r flwyddyn ar gyfer peillwyr."
Dywedodd Fran Rolfe, Uwch Swyddog yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'n wych gweld yr ardd law yn cael ei phlannu ger glan y môr. Bydd yr ardd sydd wedi'i lleoli ger y traeth yn helpu i leihau'r risg o lygredd yn ogystal ag atal llifogydd lleol. Bydd hefyd yn gartref i fywyd gwyllt, yn edrych yn wych a gobeithio y bydd y gymuned ac ymwelwyr yn ei mwynhau."
Mae'r ardd law wedi'i dylunio i fod yn ddatrysiad cynaliadwy i wella system ddraenio Burrows Road, gan wella gwydnwch yn erbyn newid yn yr hinsawdd a chyfrannu at adferiad natur.
Mae'n dal dŵr ffo o'r ffordd a'r palmentydd; mae ei choed, ei llwyni a'i blodau'n helpu i leihau'r risg o lifogydd. Mae'n helpu i leihau llygredd rhag mynd i mewn i'r dyfrffyrdd a niweidio'r ecosystemau.
Mae'n cynnig bwyd a chysgod i beillwyr drwy'r flwyddyn ac mae'n rhoi ychydig o liw drwy'r tymhorau.
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'n treialu datrysiadau trwy weithio gyda CNC - gan gynnwys yr ardd llaw - i helpu i wrthdroi colli bioamrywiaeth a gwella iechyd a lles pobl.
Roedd yr ardd law'n ffitio'n berffaith ar un pen o Burrows Road, a oedd yn golygu nad oedd angen cael gwared ar unrhyw leoedd parcio. Cadwyd coeden a oedd eisoes yn bodoli.
Llun: Aelod y Cabinet, Andrew Stevens, ger gardd law newydd Burrows Road gyda Swyddog Polisi Cynaliadwy'r Cyngor, Penny Gruffydd a Swyddog Isadeiledd Gwyrdd CNC, Fran Rolfe.