Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith gwerth £1 biliwn i drawsnewid Abertawe'n parhau i 2023 a thu hwnt

Mae atyniad newydd i ymwelwyr gan gwmni Wisgi Penderyn a datblygiad swyddfeydd o'r radd flaenaf yng nghanol y ddinas gyda lle i 600 o weithwyr yn y maes technoleg ymysg y prosiectau yn Abertawe sydd i'w cwblhau yn 2023.

Copperworks CGI

Copperworks CGI

Mae'r prosiectau yng Ngwaith Copr yr Hafod-Morfa a hen safle clwb nos Oceana sydd dan arweiniad Cyngor Abertawe ymysg y rheini sy'n rhan o raglen adfywio £1bn ar draws y ddinas sy'n parhau i ddatblygu'n gyflym.

Maent yn dilyn cynnydd sylweddol yn 2022 a oedd wedi cynnwys agoriad Arena Abertawe, y bont newydd dros Oystermouth Road a'r parc arfordirol.

Cwblhawyd gwaith gwerth £3m i wella Wind Street hefyd a oedd yn cynnwys palmentydd, seddi a gwyrddni newydd, gyda mannau awyr agored dynodedig ar gyfer ardaloedd ciniawa lletygarwch.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, roedd 2022 yn flwyddyn fawr ar gyfer y gwaith parhaus i drawsnewid Abertawe, gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf fel Arena Abertawe a'r parc arfordirol yn denu miloedd lawer o ymwelwyr yr wythnos, yn creu swyddi i bobl leol ac yn darparu lleoedd i fusnesau lleol ehangu a ffynnu.

"Nid ydym mwyach yn ddinas o argraffau arlunydd sy'n mynd i'r gwellt, a bydd y ffocws hwn ar gyflawni er budd ein preswylwyr a'n busnesau yn parhau i 2023 a thu hwnt.

"Mae cynlluniau fel canolfan ymwelwyr a distyllfa Wisgi Penderyn sy'n dod â bywyd newydd i safle hanesyddol Gwaith Copr yr Hafod-Morfa ymysg y rheini sydd i'w cwblhau eleni, ynghyd â'r datblygiad swyddfeydd modern a hyblyg, pum llawr yn 71/72 Ffordd y Brenin ar gyfer cannoedd o weithwyr yn ein sectorau technoleg, digidol a chreadigol ffyniannus.

"Byddant yn cyfuno i ddathlu'n hanes wrth greu swyddi newydd, cadw cyfleoedd cyflogaeth â thâl da yn Abertawe a denu rhagor o ymwelwyr ar gyfer busnesau eraill."

Mae safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa'n cael ei ailwampio gan gwmni o Abertawe, John Weaver Contractors, ar ran y cyngor. Llwyddwyd i wneud y gwaith o ganlyniad i grant £4 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru a £500,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Bydd cynllun 71/72 Ffordd y Brenin, sy'n werth £32.6 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe, yn un carbon sero o ran ei weithrediad, gyda Bouygues UK yn brif gontractwr ar y safle wrth i'r gwaith adeiladu barhau. Cyngor Abertawe sy'n datblygu'r cynllun sy'n cael ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn a'i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Yn ogystal â chynlluniau sydd i'w cwblhau eleni, bydd sawl un arall yn gwneud cynnydd sylweddol. Mae'r rhain yn cynnwys y gwaith cyfredol i drawsnewid Theatr y Palace, cynlluniau i adnewyddu gerddi Sgwâr y Castell a dechrau'r gwaith ar safle adeilad BHS gynt i'w drawsnewid yn hwb cymunedol.

"Yr hyn y mae'r buddsoddiad sector cyhoeddus hwn wedi'i wneud yw denu cryn fuddsoddiad gan y sector preifat yn y ddinas hefyd, gydag enghreifftiau'n cynnwys cynllun 'adeilad byw' Hacer Developments yn ardal Iard Picton, lle mae gwaith adeiladu'n mynd rhagddo.

"Bydd Urban Splash - ein partneriaid adfywio - hefyd yn gwneud rhagor o gynnydd yn y misoedd i ddod ar gynlluniau i drawsnewid safleoedd yng nghanol y ddinas ac ar y lan y môr, a disgwylir i Skyline Enterprises o Seland Newydd gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn y gwanwyn ynghylch cyrchfan hamdden awyr agored mawr ym Mynydd Cilfái.

"Mae'r cynlluniau hyn yn cyfuno i ddangos hyder gwirioneddol i fuddsoddi yn Abertawe a fydd yn golygu gwell cyfleusterau a rhagor o swyddi i bobl leol ac ymwelwyr â'r ddinas."

Mae'r gwaith ar Theatr y Palace yn cael ei wneud gan y contractwyr o Dde Cymru, R & M Williams, ar ran Cyngor Abertawe. Mae cynlluniau eraill sy'n mynd rhagddynt yn cynnwys gwaith dan arweiniad y sector preifat i drawsnewid adeilad Neuadd Albert yn lleoliad adloniant gyda lle i 800 o bobl a lleoedd newydd ar gyfer busnesau a swyddfeydd ffordd o fyw. Cynorthwyir y ddau brosiect hwn gyda chyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chan Lywodraeth Cymru, drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae chwe eiddo allweddol yn Stryd Rhydychen, rhwng siop emwaith H Samuel a banc Barclays wedi dod i feddiant cwmni buddsoddi lleol sef Kartay Holdings yn ddiweddar, gyda'r bwriad o adfywio prif wythïen siopa yng nghanol y ddinas.

Close Dewis iaith