Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhosili'n cael ei enwi ymysg traethau gorau'r byd

Mae traeth yn Abertawe wedi cael ei enwi'n un o'r harddaf yn y byd ochr yn ochr a thraethau yng Ngwlad Thai, y Caribi ac Ynysoedd y Philipinau.

Rhossili Bay

Rhossili Bay

Mae Bae Rhosili yng Ngŵyr yn un o ddau draeth yn unig yn y DU i ymddangos yn rhestr Big 7 Travel o'r 50 o draethau ledled y blaned y dylid ymweld â nhw.

Mae elfennau fel poblogrwydd, statws y Faner Las a pha mor aml y mae traethau'n cael eu rhestru ymhlith mannau arfordirol harddaf y byd ymysg y rheini a ystyriwyd gan y tîm ar y wefan deithio.

Mae traethau enwog eraill y byd i gyrraedd y rhestr yn cynnwys traeth Cabo San Juan yng Ngholombia, traeth Whitehaven yn Awstralia, a thraeth Navagio yn Zakynthos.

Mae enwi Rhosili ymysg traethau gorau'r byd yn dilyn yr holl waith y mae tîm twristiaeth Cyngor Abertawe yn ei wneud i godi proffil Abertawe fel cyrchfan i ymwelwyr.

Mae hyn wedi cynnwys ei ymgyrch Lle Hapus a lansiwyd eleni ac ymgyrch Llwybrau Bae Abertawe.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn ffodus iawn yn Abertawe i gael rhai traethau o'r radd flaenaf fel Bae Rhosili sydd, heb os nac oni bai, wedi cael eu defnyddio'n dda yr wythnos hon wrth i lawer ohonom fwynhau'r heulwen orau a'r tymereddau cynhesaf rydym wedi'u cael ers sawl mis.

"Fel cyngor, rydym eisoes yn gwneud popeth y gallwn i hyrwyddo'n traethau ledled y DU a thu hwnt, er bod enwi Bae Rhosili ymysg 50 o draethau gorau'r byd yn cynyddu proffil Abertawe ymhellach fel cyrchfan i ymwelwyr drwy'r flwyddyn gron.

"Mae twristiaeth yn chwarae rôl allweddol yn economi Abertawe oherwydd nifer y bobl leol y mae'r diwydiant yn eu cyflogi a'r gwariant gan ymwelwyr y mae'n ei gynhyrchu.

"Gan adeiladu ar lwyddiant marchnata'n cyrchfannau dros y blynyddoedd, bydd ymgyrchoedd cyfryngau ar-lein ac yn yr awyr agored yn y dyfodol yn parhau i adlewyrchu hyn."

Mae miliynau'n parhau i edrych ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Croeso Bae Abertawe y cyngor.

Mae ei dudalen Facebook wedi cyrraedd mwy na 6.4 miliwn o bobl eleni, gyda nifer yr achlysuron y gwasgwyd 'hoffi' a 'rhannu', y rhoddwyd sylwadau ac y cliciwyd ar ddolenni wedi cynyddu dros 114% o'i gymharu â 2022.

Mae nifer yr achlysuron yr edrychwyd ar we-dudalennau www.croesobaeabertawe.com i fyny dros chwarter o'i gymharu'r â'r un cyfnod y llynedd.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Medi 2023