Cyfle i chi ddweud eich dweud am flaenoriaethau Hawliau Dynol
Gofynnir i bobl ar draws Abertawe am eu barn ynghylch y camau gweithredu y gellir eu cymryd i gyflawni pum maes blaenoriaeth Dinas Hawliau Dynol.

Ym mis Rhagfyr, datganodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, sy'n cynnwys sefydliadau allweddol yn y ddinas, ynghyd â rhanddeiliaid allweddol eraill, fod Abertawe'n Ddinas Hawliau Dynol.
Mae'r pum blaenoriaeth Hawliau Dynol allweddol fel a ganlyn:
Trechu Tlodi
Plant a theuluoedd diamddiffyn
Mynd i'r afael â gwahaniaethu
Cam-drin domestig a thrais
Ymwybyddiaeth o hawliau dynol
I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/cynllungweithreduhawliaudynol
Os bydd angen yr arolwg hwn mewn fformat arall, e.e. print bras, e-bostiwch hawliaudynol@abertawe.gov.uk