Toglo gwelededd dewislen symudol

Teithiau ar yr afon am ddim yr haf hwn wrth i waith fynd rhagddo ar bontŵn

Bydd mwy na 500 o bobl dros 50 oed yn elwa o deithiau am ddim ar Afon Tawe yr haf hwn.

Swansea Copper Jack

Swansea Copper Jack

Mae'r teithiau ar y cwch Copper Jack a gynhelir gan Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe yn cael eu hariannu gan Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Maent hefyd yn rhan o fenter heneiddio'n dda'r Cyngor.

Mae pob taith - sy'n para am 90 munud - yn mynd o Farina Abertawe ac ar hyd Afon Tawe i ardal y Bont Wrthbwys ac yn ôl.

Cynhelir 14 o deithiau am ddim ar gyfer 40 o bobl dros 50 oed yr un bob dydd tan ddiwedd mis Medi. Bydd y rhai hynny sy'n elwa hefyd yn cael paned o de neu goffi neu ddiod feddal am ddim, yn ogystal â sgwrs ddarluniadol am hanes diwydiannol cyfoethog Abertawe.

Nid oes unrhyw leoedd ar gael bellach ym mis Awst ac mae'r lleoedd ym mis Medi'n prysur lenwi.

Cynhelir Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe gan wirfoddolwyr.

Meddai Mark Whalley, y Cadeirydd, "Rydym wedi cynnal ein teithiau paned a sgwrs ers sawl blwyddyn, ac mae'r cyllid gan y cyngor yn golygu ein bod yn gallu trefnu 14 taith am ddim i bobl dros 50 oed yr haf hwn.

"Mae'r teithiau'n gyfle gwych i bobl gymdeithasu, clywed am dreftadaeth ddiwydiannol Abertawe a gweld ein dinas o safbwynt gwahanol ar hyd Afon Tawe.

"Byddwn yn annog unrhyw un dros 50 oed sydd am hwylio gyda ni ym mis Medi i gadw lle cyn gynted â phosib gan fod y teithiau'n hynod boblogaidd."

Ewch i www.scbt.org.uk i gael rhagor o wybodaeth a'r cyfle i weld yr hyn sydd ar gael.

Mae gan Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe drwydded bellach i ddefnyddio pontŵn newydd a roddwyd ar waith ar Afon Tawe, yn agos at safle hanesyddol gwaith copr yr Hafod/Morfa.

Gwneir gwaith terfynol yno bellach i alluogi'r Copper Jack i ddefnyddio'r pontŵn cyn bo hir.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae Afon Tawe wedi bod wrth wraidd bywyd Abertawe ers canrifoedd, ac rydym yn gwneud popeth posib i'w defnyddio eto er lles preswylwyr lleol ac ymwelwyr â'r ddinas.

"Dylid canmol Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe am ei gwaith. Rydym yn falch bod y grant a ddyfarnwyd gennym wedi galluogi'r ymddiriedolaeth i gynnal nifer o deithiau am ddim ar yr afon i bobl dros 50 oed yr haf hwn.

"Pan fydd y gwaith terfynol ar y pontŵn wedi dod i ben, bydd modd hefyd i deithwyr ar y Copper Jack archwilio gwaith copr yr Hafod-Morfa fel rhan o'u teithiau ar yr afon.

"Dyma hwb arall i safle y gwnaed llawer o waith cadwraeth arno dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n rhan o'n hymrwymiad i ddathlu a diogelu hanes cyfoethog Abertawe."

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Awst 2024