Tynnu gwastraff allan o afon Tawe i gefnogi teithiau hwylio ar yr afon
Roedd dros ddwsin o drolïau siopa, beic a theiar car ymysg yr eitemau a gafodd eu tynnu allan o afon Tawe'r ddinas yn ddiweddar i helpu i gefnogi teithiau hwylio yno.


Tynnwyd yr eitemau allan o ran o'r afon yn agos i'r Bont Wrthbwys gan eu bod yn peri rhwystr i fad y Copper Jack wrth iddo droi o gwmpas ar ei deithiau o Farina Abertawe.
Mae cannoedd o breswylwyr yn mwynhau teithiau ar afon Tawe ar y Copper Jack bob blwyddyn.
Mae'r rhain yn cynnwys teithiau ysgol, grwpiau sgowtiaid, teithiau i'r cyhoedd, llogi preifat a'r teithiau paned a sgwrs a ariennir gan Gyngor Abertawe drwy ei fenter Heneiddio'n Dda a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Tynnwyd y gwastraff allan o'r afon gan wirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe gyda chymorth gan Wasanaeth Gwirfoddolwyr Morol Abertawe.
Roedd eitemau eraill a gafodd eu tynnu o wely'r afon yn cynnwys ffensys a chôn traffig.
Meddai Mark Whalley, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe, "Un o'r problemau sy'n ein hwynebu wrth i ni hwylio'r Copper Jack ar afon Tawe yw'r swm cynyddol o wastraff wedi'i daflu sydd ar wely'r afon - popeth o goed suddedig sydd wedi'u cario i lawr yr afon i geir, ffensys, beiciau a throlïau siopa.
"Mae hyn yn golygu bod y bad wedi cael trafferth troi wrth y man mwy llydan ychydig i lawr yr afon o'r Bont Wrthbwys, felly gyda chaniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru, fe dreuliom bedair awr ar y dŵr yn ddiweddar yn tynnu rhai o'r gwrthrychau a oedd yn peri rhwystr allan o'r afon.
"Byddwn yn gwneud hyn eto pan fydd y tywydd ychydig yn gynhesach a phan fyddwn yn gallu gweld gwely'r afon yn gliriach.
"Hoffem ddiolch i Wasanaeth Gwirfoddolwyr Morol Abertawe am eu cefnogaeth a hoffem ddiolch hefyd i Gyngor Abertawe a drefnodd ardal yn safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa i ni storio'r eitemau a dynnwyd o'r dŵr dros dro cyn i ni gael gwared arnynt mewn modd cyfrifol."
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Mae teithiau hwylio ar y Copper Jack yn boblogaidd iawn, felly rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe gyda'u gwaith i symud rhwystrau o wely'r afon.
"Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i helpu pobl i ddefnyddio afon Tawe'n fwy, a dyna pam y bydd pontŵn yn weithredol cyn bo hir ger Gwaith Copr yr Hafod-Morfa i annog mwy fyth o deithiau ar yr afon yn y dyfodol."
Ewch i www.scbt.org.uk i gael rhagor o wybodaeth am fad y Copper Jack a'i deithiau.