Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymuned glan afon fywiog yn yr arfaeth ar gyfer safle St Thomas

Mae cannoedd o gartrefi newydd, gwell cysylltiadau â chanol y ddinas a digon o fannau gwyrdd ymysg y cynlluniau i drawsnewid safle glannau St. Thomas, a fu'n wag ers tro, yn gymuned glan afon fywiog.

St Thomas riverside development site

St Thomas riverside development site

Gofynnir i Gabinet Cyngor Abertawe gymeradwyo cynnig cam un ar gyfer y safle saith erw, sydd ar lan ddwyreiniol afon Tawe ychydig i'r gogledd o bontydd yr afon.

Mae'r arbenigwyr adfywio, Urban Splash, hefyd yn cynnig siopau a chaffis newydd ar gyfer y safle, ynghyd â gwell darpariaeth cerdded a beicio i gysylltu'r gymuned gerllaw â'r afon yn well.

Mae'r cynlluniau cam un yn cynnwys:

  • Mwy na 150 o gartrefi newydd (y byddai hanner ohonynt yn dai fforddiadwy)
  • Fflatiau
  • Dai tref
  • Adeilad nodedig chwe llawr newydd gyda lle masnachol ar y llawr gwaelod
  • Stryd werdd ganolog a gerddi a rennir
  • Dros 3,600 troedfedd sgwâr o le defnydd cymysg ar gyfer siopau, caffis neu ddefnyddiau cymunedol
  • Gwell llwybrau cerdded ar lan yr afon, croesfannau mwy diogel a llwybrau sy'n addas ar gyfer beicio

Os cymeradwyir hyn gan y Cabinet, bydd cynigion manylach yn cael eu datblygu i'r cyhoedd roi adborth arnynt er mwyn helpu i lunio'r cynlluniau terfynol.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae afon Tawe bob amser wedi bod wrth wraidd hanes Abertawe - afon a yrrodd ein diwydiant copr ac a  luniodd ein cymunedau gynt.

"Mae rhannau helaeth o goridor yr afon wedi cael eu gadael ar ôl am rhy hir serch hynny, gyda safleoedd fel glannau St Thomas yn gorwedd yn wag ers dros ganrif.

"Mae'r prosiect hwn yn ymwneud â newid hynny i ddod â chartrefi newydd, tai fforddiadwy, mannau cyhoeddus gwyrdd a chyfleusterau eraill i lan yr afon.

"Bydd y cynllun yn helpu i fynd i'r afael â'r galw lleol am dai, wrth ailgysylltu pobl ag afon Tawe ymhellach a chreu cymdogaeth ffyniannus sy'n adeiladu ar hanes cyfoethog Abertawe."

Mae Urban Splash yn bwriadu cyflawni'r cynllun ar y cyd â Lovell, arbenigwr tai partneriaeth a darparwr datblygiadau adeiladu ac adfywio preswyl arloesol blaenllaw.

Bwriedir i gwmni Pobl hefyd ddod yn bartner cymdeithas dai a fyddai'n cefnogi darparu'r tai fforddiadwy sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Medi 2025