Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o gyfleoedd cyllido ar gyfer prosiectau gwledig yn Abertawe

Mae ail rownd o geisiadau cyllido bellach ar agor ar gyfer prosiectau y bwriedir iddynt roi hwb i gymunedau gwledig Abertawe.

Lliw Resevoir

Lliw Resevoir

Mae cyllid grant yn cael ei ryddhau ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi themâu gan gynnwys yr economi wledig a phrofiad ymwelwyr, yr amgylchedd naturiol a'r argyfwng hinsawdd, arloesedd ac iechyd a lles.

Mae'r cyllid yn rhan o brosiect angori gwledig sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Abertawe a'i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae prosiectau a fydd yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid yn cynnwys grantiau cyfalaf ar gyfer buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy er budd cymunedol. Gallai prosiectau posib gynnwys cynlluniau ynni adnewyddadwy ar gyfer adeiladau cymunedol neu fan gwefru cymunedol ar gyfer ceir a beiciau. Mae grantiau refeniw hefyd ar gael ar gyfer prosiectau sy'n cynnwys:

  • Marchnadoedd gwledig lleol a llwybrau ymwelwyr i wella nifer yr ymwelwyr ar strydoedd mawr gwledig. Gallai'r rhain gynnwys digwyddiadau dros dro, ymgyrchoedd marchnata a datblygu apiau.
  • Cynlluniau bioamrywiaeth fel prosiectau gwyrddi gwledig ar gyfer gwella bioamrywiaeth, tyfu cymunedol neu ddefnyddio mannau nas defnyddir ddigon unwaith eto drwy fioamrywiaeth.
  • Cynlluniau gwirfoddoli i ymgysylltu â grwpiau mewn cymunedau gwledig, a allai gynnwys cludiant cymunedol, cynlluniau amgylcheddol neu gyfeillio, a gweithredu yn y gymuned.
  • Astudiaethau dichonoldeb gyda chynlluniau sydd wedi'u costio'n llawn i helpu gyda datgloi cymorth ariannol yn y dyfodol. Gallai'r rhain fod ar gyfer cynllun cludiant cymunedol neu gyfleusterau cymunedol fel amgueddfa neu hwb.

Gall prosiectau refeniw dderbyn hyd at £15,000 a gall prosiectau cyfalaf dderbyn hyd at £25,000.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Stevens, Cynghorydd Hyrwyddo dros yr Economi Wledig yng Nghyngor Abertawe, "Mae ein cymunedau gwledig yn gwneud cyfraniad mor bwysig i ddiwylliant ac economi Abertawe, felly byddem yn annog ceisiadau gan brosiectau sy'n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r cymunedau hyn yn y blynyddoedd sy'n dod.

"Mae prosiectau sy'n cefnogi themâu fel yr economi wledig a phrofiad ymwelwyr, yr amgylchedd naturiol a'r argyfwng hinsawdd, arloesedd ac iechyd a lles ymysg y rheini a gaiff eu hystyried, wrth i ni geisio sicrhau budd i gynifer o'n cymunedau gwledig â phosib drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "O farchnadoedd gwledig a llwybrau i ymwelwyr i gynlluniau gwirfoddoli, cludiant cymunedol a chynigion i roi bywyd newydd i fannau nas defnyddir ddigon drwy fioamrywiaeth, mae gan y prosiect angori'r potensial i ddod â budd i gymunedau gwledig, preswylwyr ac ymwelwyr mewn llawer o ffyrdd.

"Mae'r cyllid hwn a'r prosiectau y bydd yn helpu i'w cyflawni yn rhan o'r cymorth costau byw sy'n cael ei ddarparu gan y cyngor.

"Dyma'r ail rownd o geisiadau cyllido ar gyfer y prosiect angori hwn ond os bydd arian ar ôl wedi i gynlluniau llwyddiannus gael eu cymeradwyo, yna gall fod mwy fyth o rowndiau cyllido yn y dyfodol.

"Rydym yn awyddus i gefnogi'r holl ymgeiswyr yn ystod y broses hon, felly byddwn yn annog pobl i gyflwyno ceisiadau drafft neu unrhyw elfennau o'r ffurflen y gall fod angen eu gwirio."

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau drafft yw dydd Mercher 25 Hydref am ganol dydd, a bydd y cyfle i gyflwyno ceisiadau grant cyffredinol yn dod i ben am ganol dydd ddydd Llun, 6 Tachwedd.

Mae'r wardiau lle mae prosiectau angori gwledig yn gymwys ar gyfer cymorth yn cynnwys Llandeilo Ferwallt, Clydach (gan gynnwys Craig-cefn-parc), Fairwood, Gorseinon a Phenyrheol, Gŵyr, Tre-gŵyr, Llangyfelach, Casllwchwr, Pen-clawdd, Penlle'r-gaer, Pennard, Pontarddulais (gan gynnwys hen ward Mawr), Pontlliw a Thircoed.

Gall prosiectau mewn wardiau eraill hefyd gael eu cefnogi fesul achos os ydynt ar gyrion y wardiau hyn neu, mewn amgylchiadau eithriadol, ardaloedd ag amgylcheddau naturiol helaeth mewn mannau eraill yn y sir.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/cyllidgwledig i gael rhagor o wybodaeth am brosiectau angori gwledig a manylion ynghylch sut i gyflwyno cais.

Gall unrhyw un sy'n chwilio am ragor o fanylion hefyd e-bostio ruralanchorspf@abertawe.gov.uk

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Medi 2023