Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfleoedd newydd ar gyfer cymunedau gwledig Abertawe

​​​​​​​Mae galw am brosiectau blaengar a fydd o fudd i breswylwyr gwledig Abertawe.

Rural Economy

Rural Economy

Gwahoddir grwpiau cymunedol a sefydliadau nid-er-elw i wneud cais am gyllid i gefnogi prosiectau newydd a blaengar a chanddynt fudd cymunedol.

Mae Aelodau Grŵp Gweithredu Lleol Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe yn croesawu syniadau gan grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol.

Dylai'r cynlluniau gynyddu cynhyrchiant, amrywiaeth ac effeithlonrwydd yn y sector amaethyddol, gwella amgylchedd Cymru a hyrwyddo cymunedau lleol cryf a chadarn.

Mae dwy gronfa ar gael. 

Gall prosiectau llai wneud cais am grantiau hyd at £10,000 gan ddefnyddio proses llwybr carlam. Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 5pm, 24 Chwefror. Mae'n rhaid i bob prosiect ddarparu cyllid cyfatebol sydd o leiaf 30% o gyfanswm costau'r prosiect.

Mae'r Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG), a reolir gan Gyngor Abertawe, wedi dechrau trafodaethau am syniadau am brosiectau mwy. Gyda hyd at £25,000 ar gynnig ar gyfer cynigion mwy sylweddol, gwahoddir ymgeiswyr posib i ofyn am sgwrs gychwynnol drwy e-bostio rdpleader@abertawe.gov.uk. Bydd y RhDG yn derbyn ffurflenni syniadau am brosiect wedi'u cwblhau o 11 Mawrth tan 5pm ar 10 Ebrill.

Dylai'r holl weithgareddau gael eu cynnal o fewn 8 ward gwledig y ddinas a bod o fudd cymunedol.

Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wella Busnes a Pherfformiad, "Rydym yn benderfynol o helpu prosiectau sy'n dod â chyfleoedd newydd, gobaith ac ysbrydoliaeth i'n hardaloedd gwledig."

Mae llwyddiant rowndiau ariannu blaenorol y RhDG wedi cynnwys cynlluniau a arweiniodd at greu'r cyfleuster addysg Tŷ Crwn yr Oes Haearn yn Parkmill, Gŵyr.

I ddarganfod sut i gyflwyno ceisiadau cadarn, gall ymgeiswyr posib ymuno ag un o'n pedwar gweminar RhDG ar-lein am ddim dros y mis nesaf. I gadw lle, e-bostiwch rdpleader@abertawe.gov.uk. Am ragor o wybodaeth am y RhDG, gan gynnwys dyddiadau gweminar a ffurflenni cais, ewch i www.abertawe.gov.uk/CyllidRhDG.

Cronfa Amaethyddol Ewrop 7 mlynedd ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gwledig yw'r RhDG, ac fe'i hariennir gan Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru 2014-2020 (sydd wedi'i estyn tan 2023).

 

Close Dewis iaith