Cyllid newydd yn helpu prosiectau i gael effaith fuddiol ar gymunedau gwledig
Disgwylir i dri phrosiect newydd gael effaith gadarnhaol ar gymunedau gwledig Abertawe
Maent yn cynnwys creu llwybr pererindod newydd ar draws Gŵyr gan gysylltu eglwysi a chapeli hanesyddol a safleoedd Cristnogol sanctaidd eraill.
Mae prosiect arall yn ceisio cynyddu bioamrywiaeth a gwella cydnerthedd yr amgylchedd naturiol mewn dau safle yng Nghraig-cefn-parc a Garnswllt.
Bydd y trydydd prosiect yn cynnwys astudiaeth dichonoldeb i fapio cynnyrch lleol a byrhau cadwyni cyflenwi yn Abertawe wledig. Ei nod yw galluogi busnesau bwyd a defnyddwyr i gysylltu ac adeiladu systemau bwyd cynaliadwy.
Cynorthwywyd pob un gan gyllid newydd oddi wrth y Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) a reolir gan Gyngor Abertawe.
Rhaglen saith mlynedd Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig yw'r RhDG. Fe'i hariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a disgwylir iddi ddod i ben yn 2023.
Meddai Andrew Stevens,Aelod Cabinet y Cyngor dros Wella Busnes a Pherfformiad, "Mae'r prosiectau hyn yn dod â chyfle, gobaith ac ysbrydoliaeth newydd i'n hardaloedd gwledig; maent yn dangos angerdd dros y rhannau arbennig hyn o Abertawe.
"Dônt â chreadigrwydd ac uchelgais i gymunedau lleol ac maent yn helpu i fwyafu'r potensial sydd gan yr ardaloedd hyn yn awr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Ysgogir y mentrau newydd gan Fywoliaeth Unedig De-orllewin Gŵyr, Cyngor Cymuned Mawr a thîm datblygiad economaidd y cyngor ar y cyd â Phartneriaeth Bwyd Abertawe.
Meddai llefarydd ar ran Bywoliaeth Unedig De-orllewin Gŵyr, "Rydym yn falch iawn o dderbyn grant gan Lywodraeth Cymru drwy Bartneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe.
"Bydd yn galluogi Ffordd Bererindod Gŵyr a'r ŵyl i ddod yn realiti yn 2022.
"Bydd hyn yn helpu preswylwyr ac ymwelwyr ddysgu mwy am ein heglwysi hanesyddol, bywydau a ffydd y seintiau Celtaidd a'u sefydlodd, a ffydd y rheini sy'n defnyddio'r eglwysi heddiw, wrth fwynhau troeon hyfryd yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol hon ar yr un pryd.
"Bydd y fenter yn hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy yng Ngŵyr drwy gydol y flwyddyn a dylai ddod â buddion i fusnesau lleol yn ein cymunedau gwledig."
Meddai cadeirydd Cyngor Cymuned Mawr, y Cynghorydd Tom Roberts, "Mae ein haelodau wrth eu boddau fod y cyllid hwn ar gyfer Prosiect Bioamrywiaeth Mawr wedi'i ddyfarnu i ni.
"Bydd yr arian yn galluogi cydlynydd y prosiect sydd newydd ei benodi i weithio ar ddatblygu'r mannau gwyrdd a chynyddu bioamrywiaeth yng Nghraig-cefn-parc a Garnswllt er budd y gymuned leol a chymunedau ehangach.
"Bydd y prosiect bioamrywiaeth yn ehangu'r ystod o gynefinoedd a ffurfiannau llystyfiant sydd ar gael ar y ddau safle ac yn gwella sefydlogrwydd yr ecosystem."
Meddai Sue Woodward, o dîm datblygiad economaiddy cyngor, "Mae'r astudiaeth dichonoldeb i fapio cynnyrch lleol a byrhau cadwyni cyflenwi'n ddarn cyffrous o waith.
"Bydd yn tynnu sylw at gyfleoedd i gynhyrchwyr a busnesau bwyd lleol ac yn rhoi gwell mynediad i breswylwyr ac ymwelwyr at fwyd sydd wedi'i gynhyrchu'n lleol a llwybrau cyflenwi cynaliadwy.
"Bydd hyn yn ei dro yn cynyddu cynnig Abertawe fel cyrchfan bwyd adnabyddadwy. "
Meddai cadeirydd y PDG, Hamish Osborn, "Rydym yn falch o gyhoeddi detholiad pellach o brosiectau a gefnogir drwy Bartneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe.
"Bydd Ffordd Bererindod Gŵyr yn gaffaeliad gwirioneddol i gadw treftadaeth a thraddodiadau'r teithiau ysbrydol a wnaed ar draws Gŵyr. Bydd y prosiect yn hyrwyddo arwyddocâd hanesyddol yr eglwysi ar hyd y ffordd ac yn creu ymdeimlad o gymuned i bawb drwy les a llwybrau a gerddir gydag eraill.
"Bydd Prosiect Bioamrywiaeth Mawr yn cymryd ymagwedd gynaliadwy at reoli ei gynefinoedd lleol dros ddau safle i warchod a chynyddu'r fflora a ffawna brodorol.
"Bydd yr astudiaeth dichonoldeb Mapio Cynnyrch Lleol a Byrhau Cadwyni Cyflenwi yn Abertawe Wledig yn darparu dealltwriaeth o'r bylchau mewn cadwyni cyflenwi a fydd yn darparu cyfleoedd i gynhyrchwyr elwa ar a chymryd camau tuag at greu systemau bwyd cynaliadwy i leihau milltiroedd bwyd defnyddwyr a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd."
Mae canlyniadau'r RhDG yn cynnwys cynyddu hunanddibyniaeth cymunedau, datblygiad sy'n llai niweidiol i'r amgylchedd a mwy o gefnogaeth ar gyfer bioamrywiaeth.
Mae nodau allweddol yn cynnwys adeiladu cadernid cymunedol, mwyafu'r economi leol a chynyddu lles cymunedau gwledig.
Mae llwyddiannau rowndiau ariannu cynharach wedi cynnwys prosiectau sydd wedi creu cynllun cynhyrchu bwyd bywiog, cynaliadwy ac atebion cludiant cynaliadwy sy'n cynnwys menter Bae Abertawe heb Gar.
Mae prosiectau ychwanegol yn cynnwys un sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu â phobl ifanc i ddarparu llwyfan i archwilio materion amgylcheddol drwy brosiect Youth Solutions Abertawe Wledig y YMCA.
Mae un arall - Cymunedau sy'n Tyfu - yn dod â phreswylwyr lleol a cheiswyr lloches ynghyd drwy dyfu cynnyrch a rhannu eu profiadau a'u treftadaeth.
Bydd grwpiau cymunedol neu sefydliadau nid er elw a chanddynt syniad arloesol a allai fod o fudd i gymunedau gwledig Abertawe yn gallu manteisio ar rownd ariannu RhDG newydd cyn bo hir. Am ragor o fanylion, cysylltwch â thîm y RhDG - https://www.abertawe.gov.uk/RhDG a www.facebook.com/rdpleader/
Llun: Eglwys Dewi Sant, Llanddewi. Bwriedir ei chynnwys ar lwybr pererindod newydd ar draws ardal Gŵyr, a fydd yn cysylltu eglwysi hanesyddol, capeli a safleoedd Cristnogol sanctaidd eraill.