Mae dau barc trefol anhygoel newydd yn cael eu creu i breswylwyr y ddinas dros y misoedd nesaf
Mae gwaith wedi dechrau i drawsnewid dau ddarn o dir gwastraff yn SA1 i fod yn barciau cymunedol trefol ffyniannus, a byddant yn cynnwys ardaloedd chwarae, llwybrau natur, mannau cyfarfod, mannau digwyddiadau a llwybr pwmpio.
Bydd yr ardaloedd newydd arloesol yn golygu y bydd gan gymunedau yng nghanol y ddinas ac SA1 dri pharc trefol yn eu hardal leol i'w mwynhau, gan gynnwys Parc Amy Dillwyn ger Arena Abertawe.
Ariennir y prosiect gan incwm gan ddatblygwyr eiddo - a elwir yn gyllid adran 106 - a bydd yn costio oddeutu £1m i'w gyflawni. Mae gwaith eisoes wedi dechrau a bydd gwaith plannu'n dechrau yn hwyrach eleni, a disgwylir i'r parciau agor yn llawn i'r cyhoedd erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf.
Bydd y parc mwyaf o'r ddau ohonynt ar hyd Langdon Road yn Noc Tywysog Cymru ger gwesty The Village. Bydd yn cynnwys:
· Ardal chwarae gymunedol, sy'n cynnwys offer chwarae i blant o bob oedran, ardal pêl-fasged a chyfleusterau chwarae i blant ag anableddau.
· Lle ar gyfer chwarae a chwaraeon anffurfiol
· Lle i gymdeithasu a chynnal digwyddiadau
· Meinciau ac ardaloedd eistedd
· Coed, gwelyau plannu helaeth, gwrychoedd blodeuol a mannau gwyrdd eraill i'w mwynhau, gan hyrwyddo bywyd gwyllt a phryfed a darparu cynefinoedd newydd.
Bydd yr ail barc ar dir rhwng Langdon Road a chornel Doc Tywysog Cymru. Bydd ei atyniadau'n cynnwys:
· Trac pwmpio newydd sbon o'r radd flaenaf
· Man gwyrdd agored
· Lle i flodau gwyllt, gwrychoedd a choed
· Cefnogaeth i gynefinoedd i bryfed
Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Parc Amy Dillwyn oedd y parc trefol cyntaf a grëwyd yn Abertawe ers canrif. Rydym bellach yn adeiladu ar ei lwyddiant trwy greu dau barc arall yng nghanol SA1 a fydd yn darparu ar gyfer y gymuned gyfan.
"Bydd y ddau fan gwyrdd newydd hyn yn annog preswylwyr, teuluoedd a phobl ifanc i fynd allan, gan alluogi preswylwyr i fwynhau lle maen nhw'n byw'n well a hyrwyddo lles.
"Bydd y mannau gwyrdd ychwanegol hefyd yn hyrwyddo natur a bioamrywiaeth yng nghanol ardal brysur SA1 ac fe'u crëir o ganlyniad i ymgynghoriad cyhoeddus a chydweithrediad gan dimau ar draws y cyngor.