Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddiad y Fargen Ddinesig yn allweddol i gefnogi adfywiad Abertawe

Mae buddsoddiad gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe wedi arwain at dri chyfleuster newydd yn Abertawe.

71/72 Kingsway (December 2024)

71/72 Kingsway (December 2024)

Fel rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau, mae buddsoddiad y Fargen Ddinesig yn ariannu Arena Abertawe, yr Innovation Matrix ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a'r datblygiad swyddfeydd newydd ar hen safle clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin yn rhannol.

Mae Arena Abertawe, a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe ac a gynhelir gan Ambassador Theatre Group, bellach wedi bod ar agor ers dros ddwy flynedd fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau y mae'n rhaid prynu tocynnau ar eu cyfer, cynadleddau, seremonïau graddio, gwleddoedd a digwyddiadau dysgu creadigol.

Mae'r datblygiad swyddfeydd newydd ar 71/72 Ffordd y Brenin bron â chael ei gwblhau hefyd. Bydd y cynllun yn cynnwys 114,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol, teras ar y to, balconïau sy'n edrych dros Fae Abertawe a chanol y ddinas a chyswllt newydd i gerddwyr rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen. Mae dros 75% o'r lle ar gyfer swyddfeydd yno bellach dan gynnig.

Mae'r Innovation Matrix (IM) 2,200 metr sgwâr a arweinir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sydd yng nghampws y Glannau SA1 yn cynnig cyfle unigryw i fusnesau gysylltu drwy gyd-leoliad mewn lle ansawdd uchel ac i bartneru â'r brifysgol.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3b mewn nifer o brosiectau mawr ar draws Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, sydd hefyd yn cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r tri phrosiect yn Abertawe a ariennir yn rhannol gan y Fargen Ddinesig naill ai wedi'u cwblhau neu byddant yn cael eu cwblhau'n fuan.

"Maent yn creu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer adloniant, busnesau ac arloesedd wrth gynhyrchu swyddi i bobl leol a hybu'r economi leol.

"Mae'r cyllid hwn hefyd wedi gweithredu fel catalydd i ddenu rhagor o fuddsoddiad yn Abertawe, gydag enghreifftiau'n cynnwys cynllun swyddfeydd Ardal y Dywysoges a'r adeilad byw arloesol sy'n cael ei ddatblygu yn Iard Mowbray.

"Mae'r holl gynlluniau hyn yn rhan o raglen gwerth dros £1b i adfywio Abertawe, sy'n trawsnewid ein dinas yn un o fannau gorau'r DU i fyw, gweithio, astudio, mwynhau ac ymweld â hi."

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a ariennir gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat, yn cael ei harwain gan y pedwar awdurdod lleol rhanbarthol mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae prosiectau eraill y Fargen Ddinesig sydd o fudd i Abertawe'n cynnwys Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer a Sgiliau a Thalent.

Mae dros £175m hefyd yn cael ei fuddsoddi yn isadeiledd digidol y rhanbarth.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Rhagfyr 2024