Bwthyn hanesyddol i'w werthu mewn ocsiwn
Yn eisiau: Cymdogion newydd ar gyfer un o adeiladau nodedig mwyaf cain Abertawe.


Mae tenantiaid Bwthyn Neuadd Sgeti wedi symud o'r adeilad ac mae Cyngor Abertawe am i'r perchnogion newydd gadw'r cartref ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r bwthyn, sydd bellach yn rhan o Goleg Gŵyr Abertawe, yn sefyll drws nesaf i Neuadd Sgeti, adeilad trawiadol sy'n dyddio nôl i'r 1700au ac sydd wedi bod yn gartref i nifer o deuluoedd amlwg.
Bydd yr elw o werthu'r bwthyn yn cael ei ailfuddsoddi gan y cyngor mewn gwasanaethau cyhoeddus pwysig.
Meddai David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Rydym am i Fwthyn Neuadd Sgeti gael ei gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a hoffem iddo aros yn gartref.
"Oherwydd ei leoliad a'r posibiliadau, rydym yn disgwyl cryn dipyn o ddiddordeb pan gaiff ei werthu mewn ocsiwn, gan gynnig cyfle adnewyddu gwych i ddatblygwr lleol.
"Bydd unrhyw incwm a gynhyrchir ar gyfer y cyngor o'r gwerthiant yn cael ei ailfuddsoddi i helpu i ariannu gwasanaethau hanfodol ar gyfer y gymuned."
Mae Bwthyn Neuadd Sgeti yn rhannu llwybr mynediad â Neuadd Sgeti ger Sketty Lane. Credir iddo gael ei adeiladu fel cerbyty i wasanaethu Neuadd Sgeti yn ystod y 1700au. Mae ganddo dair ystafell ar y llawr gwaelod, ystafell lan llofft, tai allan cysylltiedig a gardd amgaeedig.
Anogir cynigwyr posib i gofrestru eu diddordeb gyda thŷ ocsiwn Allsop. Caiff y bwthyn ei werthu yn ocsiwn breswyl Allsop ar 23 Mehefin.
Meddai Jamie Clarke, o Allsop, "Mae Bwthyn Neuadd Sgeti yn llawn potensial i rywun sy'n awyddus i roi bywyd newydd i'r ased treftadaeth."
Rhagor o fanylion:
- Bwthyn Neuadd Sgeti - www.bit.ly/SHCottageAuction
- Ocsiwn breswyl Allsopa - www.auctions.allsop.co.uk/
Llun: Bwthyn Neuadd Sgeti