Cyllid o fudd i gannoedd o brosiectau yn Abertawe
Mae adeiladau segur yn cael eu hailwampio, busnesau'n cael eu gwella a phobl yn cael cymorth i ddod o hyd i waith, diolch i fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ar draws Abertawe dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo cannoedd o brosiectau ar draws y ddinas a'r sir sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae hyn yn cynnwys gwaith a wnaed i adfer y Bwthyn Swistirol ym Mharc Singleton.
Mae rhai darnau pren newydd wedi'u gosod yn lle'r hen rai, mae gwaith sandio wedi'i wneud ac mae'r adeilad wedi cael ei ail-baentio i helpu i'w adfer i fel yr oedd yn ei ddyddiau gorau.
Mae'r cyllid hwn hefyd yn galluogi astudiaeth ddichonoldeb sydd, gyda chymorth pensaer a thîm ymgynghoriaeth, yn archwilio sut y bydd modd defnyddio'r adeilad eto yn y dyfodol wrth gynnal ei dreftadaeth.
Mae cynllun Llwybrau at Waith Cyngor Abertawe, sydd hefyd yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn cefnogi'r rhai sy'n 16 oed ac yn hŷn nad oes ganddynt waith.
Ymhlith y bobl niferus sydd wedi'u cefnogi mae Kabir Balogun, sydd bellach yn gweithio fel rheolwr prosiect cynorthwyol fel rhan o gynllun adeilad byw canol y ddinas sy'n cael ei arwain gan Hacer Developments.
Mae rhannau segur o adeilad ym Mhontarddulais hefyd wedi'u hailwampio.
Roedd llawr gwaelod 82-84 St Teilo Street wedi bod yn wag ers tua phedair blynedd nes i'r adeilad gael ei brynu a'i drawsnewid gan y cwmni o Abertawe, Our Health Pharma Investments.
Bydd ei ddefnydd newydd - fel canolfan lles cymunedol Hyb SA4 - yn helpu i adfywio'r ardal, yn creu swyddi lleol ac yn cadw miloedd o breswylwyr lleol yn iach ac yn heini.
Mae oriel a stiwdios Elysium hefyd wedi derbyn cyllid drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin i helpu gyda'u cynlluniau i ailwampio hen adeilad JT Morgan yng nghanol y ddinas.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn benderfynol o sicrhau bod cynifer o bobl a busnesau â phosib yn Abertawe'n elwa o'n dyraniad o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy Lywodraeth y DU.
"Dyma pam mae cyllid wedi'i ddyfarnu i gannoedd o brosiectau ar draws Abertawe wrth i ni geisio sicrhau bod cymorth ar gael i gynlluniau yn ein holl gymunedau.
"O ailwampio adeiladau gwag a darparu cyllid i nifer o fusnesau yn Abertawe, mae'r prosiectau hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
"Mae mentrau o bob siâp a maint yn elwa fel rhan o'r buddsoddiad mawr hwn."
Mae cynlluniau eraill y dyfarnwyd arian iddynt drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cynnwys gwaith sydd wedi dechrau yn Sgwâr Graiglwyd yn Townhill i drawsnewid cylchfan drwy blannu rhagor o goed, planhigion a gardd gerrig. Mae'r cynllun hwn hefyd wedi derbyn arian drwy raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.
Mae cyllid hefyd wedi bod ar gael i ddwsinau o fusnesau'r stryd fawr, gan gynnwys grantiau cyn dechrau, grantiau datblygu gwefannau, grantiau twf a grantiau lleihau carbon.
Mae'r busnesau sy'n elwa o grantiau twf yn cynnwys Grandad Needs His Medicine - siop frechdanau ar Stryd Rhydychen; XP Gaming Bar ar Castle Street; No 18 Vegan Café Bar ar Bryn-y-môr Road; caffi Brew and Bloom yng Nghanolfan Gymunedol Forge Fach yng Nghlydach, a Malu Coffee and Espresso Bar ar Woodfield Street yn Nhreforys.
Hefyd, trefnwyd teithiau am ddim i bobl dros 50 oed ar long Copper Jack ar hyd yr Afon Tawe, diolch i gymorth ariannol drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Roedd y teithiau am ddim yn cael eu rhedeg gan Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe ac roeddent yn rhan o fenter 'Heneiddio'n Dda' y Cyngor.