Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun grant newydd yn rhoi hwb i ganolfannau siopa ardal Abertawe

Rydym bellach yn gwahodd ceisiadau ar gyfer arian grant a fydd yn cael ei ddefnyddio i wella canolfannau siopa ardal a rhai masnachol bach ar draws Dinas a Sir Abertawe sydd y tu allan i ganol y ddinas.

swansea from the air1

swansea from the air1

Mae grantiau creu lleoedd gwerth hyd at £30,000 ar gael a chânt eu cynnal gan Gyngor Abertawe a'u hariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Mae prosiectau sy'n cael eu hariannu gan y cynllun grant, sy'n rhan o brosiect angori Trawsnewid Lleoedd ar draws y Sir y cyngor, yn cynnwys:

  • Cynlluniau sy'n uwchraddio arwynebedd llawr masnachol gwag er mwyn ei ddefnyddio at ddibenion busnes buddiol unwaith eto. Caiff dibenion swyddfeydd, hamdden annibynnol, manwerthu a bwyd a diod eu hystyried yn benodol, er, caiff cynlluniau defnydd cymysg eu hystyried hefyd. Caiff swyddfeydd neu eiddo masnachol uwchben unedau manwerthu hefyd eu hystyried ar gyfer y cymorth.
  • Cynlluniau gwella blaenau siopau i wella blaenau adeiladau at ddibenion buddiol. Gallai'r gwaith gynnwys gwelliannau i flaenau siopau a ffasadau, arwyddion, goleuadau allanol a ffenestri a drysau.
  • Darparu isadeiledd gwyrdd a phrosiectau bioamrywiaeth. Gallai hyn gynnwys waliau gwyrdd, toeon gwyrdd, gerddi glaw, glasu a gerddi poced.
  • Gwelliannau bach i fannau cyhoeddus, a fyddai'n cynnwys symud cyrbau a'u gwneud yn fwy isel, dysglau plannu parhaol, darpariaeth sgrinio ac ehangu palmentydd er mwyn darparu seddi ac ardaloedd amwynderau yn yr awyr agored.
  • Cynlluniau sy'n cefnogi llwybrau cerdded a beicio teithio llesol lle nad oes modd eu hariannu drwy ffynonellau eraill. Gallai hyn gynnwys cyfleusterau storio beiciau, loceri ac ôl-osod cyfleusterau cawod a hylendid mewn adeiladau masnachol.

Bydd angen i bob cynllun ddarparu 30% o arian cyfatebol ar gyfer costau'r prosiect o ffynhonnell arall.  Bydd hefyd angen iddynt gael eu cwblhau erbyn 30 Tachwedd 2024.

Mae'r grantiau creu lleoedd yn dilyn rhaglen creu lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sy'n trefnu bod cyllid ar gael ar gyfer gwelliannau yng nghanol y ddinas a nifer bach o ganolfannau ardal penodol.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym yn gwneud llawer o waith fel cyngor i gefnogi canol y ddinas drwy sicrhau bod cynlluniau, gan gynnwys Trawsnewid Trefi, ar waith yno ar gyfer prosiectau gwella, ond rydym hefyd yn ymroddedig i wneud popeth y gallwn i gefnogi canolfannau masnachol a chanolfannau ardal bach mewn ardaloedd eraill yn Abertawe.

"Bydd y cynllun grant creu lleoedd Trawsnewid Lleoedd ar draws y Sir hwn yn rhoi hwb i ymddangosiad a bywiogrwydd y canolfannau siopa lleol hyn drwy wella'r ffordd y mae'r siopau hyn yn edrych, rhoi bywyd newydd i adeiladau gwag a chyflwyno rhagor o wyrddni a mannau cyhoeddus gwell.

"Bydd busnesau lleol a phreswylwyr lleol yn elwa, felly byddwn yn annog darpar ymgeiswyr i fynd i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

"Mae hwn yn un o'r cynlluniau niferus a gynhelir gan y cyngor ac a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, gyda chynlluniau eraill yn cynnwys prosiect angori cymorth i fusnesau."

Ewch i www.abertawe.gov.uk/grantiaucreulleoeddi gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar grantiau creu lleoedd.

E-bostiwch TrawsnewidLleoeddArDrawsySir@abertawe.gov.uk os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am gynllun.

Close Dewis iaith