Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhaglen y CAB boblogaidd yn hwyluso teithio i fodurwyr

Bydd tîm ailwynebu ffyrdd cymunedol y CAB hynod boblogaidd yn mynd o gwmpas y lle yn Abertawe yn yr wythnosau sy'n dod yn atgyweirio ffyrdd a llwybrau troed mewn mannau fel Y Cocyd, Glandŵr a Mynydd-bach

patch

Bydd timau CAB (y Cynllun Ail-wynebu Bach) ac atgyweirio tyllau yn y ffyrdd Cyngor Abertawe yn gwneud hyd yn oed mwy o waith i wella ffyrdd er mwyn hwyluso teithio i fodurwyr yr hydref hwn.

Diben y pecyn o fesurau yw atgyweirio ffyrdd a gwneud gwaith i atal ffyrdd sydd mewn cyflwr da rhag dirywio. Ers dechrau mis Ebrill mae tîm atgyweirio tyllau yn y ffordd y cyngor wedi atgyweirio bron 2,500 o dyllau yn y ffordd o fewn 48 awr o gael gwybod amdanynt gan breswylwyr.

Ac yn yr hydref bydd Tîm y CAB yn ymweld â Chlydach, Dyfnant, Cilâ, Gorseinon a Phenyrheol fel rhan o'i raglen ail-wynebu ffyrdd y mae mannau fel Townhill, Bôn-y-maen a Chwmbwrla wedi elwa ohoni dros yr ychydig wythnosau diwethaf.

Daw'r gwaith hwn ar ben rhaglen gwella ffyrdd gwerth £2.6m sy'n targedu mwy na 20 o ffyrdd prysur ar draws y ddinas, gyda gwaith wedi'i gwblhau yn Gendros, Townhill a Threforys a mwy i ddod mewn mannau fel Cyffordd 47 yr M4, Glandŵr a Phenlle'r-gaer.

Mae'r holl brosiectau priffyrdd yn rhan o gynllun pum mlynedd hirdymor y cyngor sy'n rhedeg o 2020 i 2025.

Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod y cyngor yn ymrwymedig i barhau â gwaith tîm y CAB a'r tîm atgyweirio tyllau yn y ffordd yn y misoedd sy'n dod i fynd i'r afael â rhagor o faterion atgyweirio ffyrdd ar draws y ddinas.

Dan y Cynllun Ail-wynebu Bach £1.1m - yr enw newydd am raglen atgyweirio ffyrdd PATCH - mae pob un o wardiau'r ddinas yn cael o leiaf pum niwrnod o sylw, gydag aelodau ward yn helpu i nodi rhai o'r strydoedd lle mae angen gwneud y gwaith mwyaf.

Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o atgyweiriadau sy'n cael eu monitro yn ystod archwiliadau rheolaidd o'r priffyrdd ac mae'n cynnwys atgyweirio tyllau yn y ffordd a gwella palmentydd.  

I gael gwybod mwy am y cynlluniau ail-wynebu sydd yn yr arfaeth ar gyfer 2023/24 cliciwch yma: Rhaglen Ailwynebu ffyrdd - Abertawe <https://www.swansea.gov.uk/roadresurfacing>

 

 

 

Close Dewis iaith