Partneriaeth newydd i roi hwb tuag at ddyfodol sero net
Cyhoeddwyd partneriaeth newydd â'r nod o symud Abertawe'n nes at ddyfodol sero net.


Mae Cyngor Abertawe wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda SSE Energy Solutions i gydweithio i helpu'r ddinas i gyflawni statws sero net erbyn 2050.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart: "Mae pawb yn gwybod pa effaith y mae newid yn yr hinsawdd yn ei chael ac y mae'n mynd i'w chael, a dyma'r rheswm pam rydym wedi gosod y targed uchelgeisiol o ddod yn ddinas sero net yn y 25 mlynedd nesaf.
"Mae ein cytundeb gyda SSE Energy Solutions yn dod â'u harbenigedd wrth i ni weithio gyda nhw i ddatgarboneiddio ynni, meithrin sgiliau gwyrdd a chreu cyfleoedd tymor hir i gymunedau lleol wrth arloesi llwybrau newydd tuag at ddyfodol glanach a gwyrddach."
Meddai Noel Powell, Pennaeth Adfywio, SSE Energy Solutions, "Trwy uno arbenigedd SSE yn natrysiadau ynni adnewyddadwy a gweledigaeth carbon isel uchelgeisiol Abertawe, gallwn gyflymu gweithrediad prosiectau ynni arloesol a chynnig swyddi gwyrdd lleol yn gynt i breswylwyr, busnesau a chymunedau."