Nodi blaenoriaethau wrth i gynllun trafnidiaeth rhanbarthol gael ei ystyried
Mae sicrhau bod bysus a threnau'n darparu dewis arall ymarferol a fforddiadwy i deithio mewn car yn flaenoriaeth allweddol i gynllun trafnidiaeth rhanbarthol De-orllewin Cymru.


Nodwyd y flaenoriaeth yn ystod ymgynghoriad ar gynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft a fydd yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.
Rhoddodd bron 900 o bobl eu hadborth ar y cynllun drafft, sydd â'r nod o greu rhwydwaith trafnidiaeth mwy dibynadwy, cysylltiedig a hygyrch ledled y rhanbarth, gan ganiatáu i breswylwyr gael mynediad at wasanaethau hanfodol, addysg a chyflogaeth a datgloi gweithgarwch economaidd yn Ne-orllewin Cymru.
Mae'r blaenoriaethau eraill a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn cynnwys cynnal a chadw strydoedd, llwybrau troed a llwybrau beicio, yn ogystal â gwella cysylltiadau rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth fel bysus a threnau.
Roedd yr angen i gydnabod cymeriad unigryw ac amrywiol y rhanbarth a'r heriau a wynebir gan lawer o breswylwyr oherwydd gwledigrwydd hefyd yn thema allweddol.
Mae'r holl adborth bellach wedi helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu'r cynllun ymhellach, a gyflwynir i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru i'w gymeradwyo cyn bo hir.
Mae'r cynllun, sy'n amodol ar gyllid, yn cynnwys mentrau a phrosiectau y bwriedir eu rhoi ar waith rhwng 2025 a 2030.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, "Mae mentrau fel Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r Porthladd Rhydd Celtaidd yn golygu bod llawer o fuddsoddiad yn parhau yn ne-orllewin Cymru i hybu ein heconomi a chreu swyddi sy'n cynnig tâl da i bobl leol, ond mae angen gwella ein rhwydwaith trafnidiaeth yn sylweddol hefyd.
"Yn ogystal â chyd-fynd â graddfa'r gwaith adfywio sy'n cael ei wneud, bydd y gwelliant hwn hefyd yn ceisio gwella trafnidiaeth i breswylwyr yn ein holl gymunedau trefol a gwledig.
"Wrth fynd i'r afael â materion allweddol fel newid yn yr hinsawdd a fforddiadwyedd, bydd y cynllun yn ceisio rhoi mwy o opsiynau trafnidiaeth i bobl leol dros y blynyddoedd nesaf wrth i ni geisio gwneud de-orllewin Cymru'n fwy cysylltiedig nag erioed o'r blaen."
Mae'r cynllun a fydd yn helpu i gefnogi'r gwaith o ddarparu system metro rheilffyrdd a bysus yn Ne-orllewin Cymru yn dod cyn Bil Gwasanaethau Bysiau Llywodraeth Cymru sydd â'r nod o wella gwasanaethau bysus yng Nghymru drwy ganiatáu mwy o lais i awdurdodau lleol ynghylch teithio ar fysus a rhoi rheolaeth i Drafnidiaeth Cymru a fydd yn masnachfreintio'r gwasanaethau yn Ne-orllewin Cymru o 2027. Bwriedir i hyn wella amlder ac ansawdd y gwasanaeth, yn ogystal ag integreiddio â dulliau eraill.
Meddai'r Cyng. Darren Price, Cadeirydd Is-bwyllgor Trafnidiaeth y Cyd-bwyllgor Corfforedig, "Mae trafnidiaeth yn effeithio ar bawb yn ne-orllewin Cymru, felly roedd adborth gan breswylwyr, busnesau a sefydliadau eraill yn allweddol wrth lunio cynllun sy'n diwallu anghenion ac yn gwireddu dyheadau pobl.
"Ystyriwyd barn pawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad wrth i ni hefyd geisio creu cynllun trafnidiaeth rhanbarthol sy'n barod ar gyfer heriau'r dyfodol.
"Bydd hygyrchedd a chynaliadwyedd yn parhau i gael eu hyrwyddo, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni gwelliannau trafnidiaeth ar gyfer cymunedau trefol a gwledig."
Mae'r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol drafft yn cyd-fynd â strategaeth Trafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cymru drwy ganolbwyntio ar gyd-fynd â'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy a hyrwyddo'r dulliau trafnidiaeth mwyaf cynaliadwy lle bynnag y bo modd.
Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru'n cynnwys arweinwyr Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro.