Toglo gwelededd dewislen symudol

Butterflies yn ychwanegu digwyddiad LHDTC+ i Gyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe

Mae cyfeiriadur ar-lein o leoedd diogel, cynnes a chroesawgar y gall pobl fynd iddynt y gaeaf hwn yn parhau i dyfu wrth i ragor o grwpiau a lleoliadau gael eu hychwanegu ato.

Sadies Butterflies Swansea Space

Sadies Butterflies Swansea Space

Bellach mae dros 80 o leoedd ar gyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe, y gellir eu cyrchu yma: www.abertawe.gov.uk/LleoeddLlesolAbertawe

Un grŵp sydd wedi ymestyn ei gynnig yw Sadies Butterflies, sydd wedi dechrau noson goffi a sgwrsio LHDTC+ newydd yn Coast Café yn y marina ar nos Lun.

Meddai'r trefnydd, Donna Markie, "Cawsom gefnogaeth wych ar gyfer y noson lansio a hoffwn ddiolch i Gyngor Abertawe am weithio gyda ni a Coast Café ar yr agoriad ac am ein cynnal ar nos Lun."

Roedd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, yn bresennol yn y noson lansio.

Meddai, Rwy'n falch bod Cyngor Abertawe'n cefnogi llawer o sefydliadau ac elusennau i barhau neu ehangu eu cynnig ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb gyllid gan Lywodraeth Cymru."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023