Cyngor diogelwch ar gael ym Marchnad y Nadolig
Gall siopwyr sy'n chwilio am ddanteithion Nadoligaidd ym Marchnad y Nadolig awyr agored Abertawe eleni hefyd dderbyn cyngor diogelwch personol ac atal troseddu.
Mae gan dîm Abertawe Mwy Diogel chalet yn yr atyniad poblogaidd ar Stryd Rhydychen ac, ynghyd â phartneriaid, mae'n edrych ymlaen at siarad â siopwyr y Nadolig.
Bydd gweithgareddau am ddim hefyd ar gael, gan gynnwys celf a chrefft lle gall plant greu eu haddurniadau Nadolig eu hunain, a bydd cyfle i ennill crys yr Elyrch wedi'i lofnodi trwy gwblhau holiadur diogelwch byr.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Pugh, "Mae ein tîm Abertawe Mwy Diogel a'n partneriaid yn cynnal digwyddiadau cynnwys trwy gydol y flwyddyn ond dyma ffordd dda o ymgysylltu â llawer o bobl a rhannu gwybodaeth ddefnyddiol a phwysig yn y cyfnod cyn y Nadolig.
"Byddant hefyd yn falch o drafod unrhyw bryderon sydd gan bobl ynghylch atal troseddu neu ddiogelwch personol, felly os ydych yn ymweld â'r farchnad awyr agored, galwch heibio i ddweud helô."