Toglo gwelededd dewislen symudol

Awgrymiadau cyfryngau cymdeithasol am ddim ar gyfer busnesau Abertawe

Gall busnesau yn Abertawe ddysgu sut i wella o ran cynllunio eu cynnwys cyfryngau cymdeithasol mewn digwyddiad am ddim yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Social media icons

Social media icons

Cynhelir y digwyddiad a arweinir gan arbenigwyr ac a drefnir gan Gyngor Abertawe, ar-lein am 10am ddydd Iau 2 Chwefror.

Gan ganolbwyntio ar sut i drefnu negeseuon cyfryngau cymdeithasol, arweinir y sesiwn gan Rebecca Wade o Purple Dog - cwmni marchnata digidol yn ne-orllewin Cymru.

Dyma'r diweddaraf o'r digwyddiad Awr Bŵer am ddim a gynhelir gan y cyngor, sy'n rhoi awgrymiadau i fusnesau Abertawe ym meysydd sy'n amrywio o farchnata, recriwtio, adnoddau dynol ac ystyriaethau cyfreithiol i wefannau, cyfrifyddu a chyfleoedd ariannu.

Mae'r cyngor hefyd yn trefnu clwb menter am ddim i roi awgrymiadau i fusnesau newydd yn Abertawe.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rydym wir yn gwerthfawrogi ein busnesau gwych yn Abertawe sy'n gwneud gymaint dros gyflogaeth leol ac economi'r ddinas.

"Gall sefydlu a chynnal busnes fod yn heriol iawn, gyda nifer o bethau i'w hystyried, felly trefnwyd y sesiynau am ddim hyn, a arweinir gan arbenigwyr, i roi arweiniad a chyngor ar amrywiaeth o bynciau.

"Mae dros 300 o fusnesau wedi elwa o gymryd rhan yn y digwyddiadau hyn dros y 18 mis diwethaf, a bydd ein tîm cefnogi busnes yn parhau i fod wrth law i helpu mewn unrhyw ffordd y gallant."

Gofynnir i fusnesau sydd am fod yn bresennol yn y digwyddiad trefnu cyfryngau cymdeithasol ar-lein ddydd Iau gadw lle yma.

Lanlwythwyd holl ddigwyddiadau blaenorol y Clwb Menter Dechrau Busnes a'r Awr Bŵer hefyd i dudalen YouTube Busnes Abertawe a gall busnesau eu cyrchu ar unrhyw adeg. 

 

 

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023