Allwch chi gefnogi'ch ysgol leol drwy ddod yn llywodraethwr?
Mae angen gwirfoddolwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd i ddod yn llywodraethwyr ysgol yn Abertawe ac mae noson wybodaeth yn cael ei chynnal ar 13 Hydref er mwyn i bobl gael rhagor o wybodaeth am y rolau.


Mae Cyngor Abertawe'n arbennig o awyddus i glywed gan bobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig i helpu cyrff llywodraethu i gynrychioli'n well y cymunedau y mae ysgolion yn eu gwasanaethu.
Mae llywodraethwyr yn chwarae rôl allweddol wrth hybu gwelliannau i ysgolion, cefnogi penaethiaid ac uwch-reolwyr a hyrwyddo cyfleoedd i blant a phobl ifanc.
Yn y digwyddiad recriwtio rhwng 5.30pm a 6.30pm yn Neuadd Siôr, Neuadd y Ddinas, bydd cyfle i bobl siarad â llywodraethwyr presennol, clywed gan bennaeth am bwysigrwydd y rolau a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt.
Mae'r digwyddiad am ddim ond rhaid cadw lle ymlaen llaw, naill ai drwy'r ddolen ganlynol https://www.ticketsource.co.uk/governors/governor-recruitment-event/e-avlpga neu drwy ffonio 07970327925.