Ysgolion i elwa o gyllid cynnal a chadw gwerth £1.2m
Ysgolion yn bennaf fydd yn elwa o fuddsoddiad sy'n werth bron £3.2m gan Gyngor Abertawe mewn gwelliannau cynnal a chadw ac adeiladu hanfodol yn y ddinas yn ystod y flwyddyn sy'n dod.


Gofynnir i Gabinet y Cyngor gymeradwyo rhaglen waith bwysig ac mae'n golygu y bydd tua £2.1m yn cael ei gyfeirio at fwy nag 17 o ysgolion er mwyn gwneud gwaith i adnewyddu neu atgyweirio toeon, gwaith uwchraddio trydanol a gwelliannau eraill.
Clustnodwyd £40,000 ychwanegol ar gyfer strategaeth toiledau'r cyngor ar ben £50,000 y llynedd i gynnal a chadw a gwella rhwydwaith toiledau cyhoeddus y cyngor.
Mae arian ar gael hefyd i gynnal cofebion rhyfel Abertawe, y mae'r cyngor wedi addo'u cynnal ar ran cyn-filwyr.
Ar ben ymrwymiad y cyngor, disgwylir cael rhagor o arian gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn i helpu i gadw ysgolion ac adeiladau'r cyngor mewn cyflwr da.
Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Rydym unwaith eto'n buddsoddi symiau sylweddol ar welliannau cynnal a chadw hanfodol ar gyfer ein hysgolion a'n hadeiladau cyhoeddus.
"Mae ein gwariant o ran y gyllideb cynnal a chadw cyfalaf yn dangos sut y mae blaenoriaethau'r cyngor yn cyd-fynd â blaenoriaethau pobl Abertawe ac, ar yr un pryd, yn helpu i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o welliannau cynnal a chadw y mae eu hangen ar ein hysgolion a'n hadeiladau cyhoeddus."
Ychwanegodd, "Mae'r rhaglen yn ystyried ymrwymiad y cyngor i leihau ei ôl-troed carbon a lleihau costau ynni."
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Dysgu, Robert Smith, "Fel cyngor rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw addysg i ddisgyblion, rhieni a staff, ond hefyd i les economaidd ein dinas ar gyfer y dyfodol.
"Mae'r rhaglen cynnal a chadw ac atgyweiriadau'n ychwanegol at y buddsoddiad gwerth £150m mewn cyfleusterau ysgol newydd a gwell yn Abertawe dan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy."