Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnes o Gymru wedi'i ddewis i ddod â bywyd newydd i adeiladau treftadaeth Abertawe

Mae cwmni adeiladu a pheirianneg sifil hirsefydlog o Gymru wedi cael ei ddewis i helpu i ddod â bywyd newydd i dri adeiledd hanesyddol yn Abertawe.

Mark Bowen and Rob Stewart

Mark Bowen and Rob Stewart

Mae cwmni Andrew Scott Ltd o dde Cymru yn bwriadu dechrau gwaith eleni ar un o gynlluniau Cyngor Abertawe i drawsnewid Tai Injan Vivian a Musgrave, a sied Locomotif Rhif 1 V&S.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y cwmni'n arwain ar gamau olaf dyluniad y prosiect, ar safle hen Waith Copr yr Hafod-Morfa.

Dewiswyd Andrew Scott - cwmni sy'n dyddio'n ôl dros 150 o flynyddoedd ac sydd wedi gweithio ar ystod eang o brosiectau - mewn proses dendro gystadleuol.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Rydym yn falch iawn o fod wedi cyflogi Andrew Scott ar gyfer y gwaith cyffrous o drawsnewid yr adeiladau hyn ar safle'r gwaith copr.

"Mae hwn yn amser cyffrous i'r ardal honno gan ein bod ni ac eraill yn bwriadu buddsoddi degau o filiynau o bunnoedd yno."

Mae cais cynllunio ar gyfer cyrchfan hamdden awyr agored pwysig gan y gweithredwr o'r radd flaenaf Skyline wedi'i gymeradwyo ar gyfer tir yn agos i'r tai injan ac ar Fynydd Cilfái

Meddai Mark Bowen, Rheolwr-gyfarwyddwr Andrew Scott Ltd, "Fel un o gwmnïau adeiladu annibynnol hynaf Cymru, rydym yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Abertawe ar brosiect Cwm Tawe Isaf i adfer a thrawsnewid rhannau allweddol o waith copr hanesyddol yr Hafod-Morfa."

Mae'r tai injan yn rhan annatod o dreftadaeth ddiwydiannol Abertawe. Mae'r cyngor yn awyddus i'w hailddefnyddio er mwyn rhoi pleser i filoedd ynghyd â chyfleoedd newydd.

Roedd gweithfeydd copr y gorffennol yn allweddol i dwf Abertawe, gan chwarae rhan hanfodol fel prif ddiwydiant dros oddeutu 300 mlynedd. Dirywiodd y diwydiant ond erys rhai o'i adeiladau ac adeileddau eraill.

Y bwriad yn awr yw ailddatblygu ac adfer adeiladau i'w defnyddio at ddibenion newydd a gwella mynediad iddynt.

Bydd Andrew Scott yn sicrhau bod sied Locomotif Rhif 1 V&S, adeilad rhestredig a fu'n gwasanaethu'r gwaith copr, yn ddiogel ac yn ddiddos. Mae'n adfeiliedig ar hyn o bryd.

Bydd y Tai Injan - y mae'r ddau ohonynt yn adeiladau rhestredig - yn addas i'w defnyddio ar gyfer amrywiaeth o ddibenion yn y dyfodol, gan gynnwys bwytai a chaffis, mannau arddangos a siopau.

Achubodd y cyngor y ddau dŷ injan rhag dirywiad parhaus sawl blwyddyn yn ôl. Gosodwyd pontŵn newydd ar yr afon gerllaw.

Llun: Arweinydd y cyngor, Rob Stewart yn nhai injan Vivian a Musgrave gyda Mark Bowen, rheolwr gyfarwyddwr y prif gontractwr, Andrew Scott.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Mehefin 2025