Cynllun amddiffynfeydd môr y Mwmbwls yn cymryd ei gam mawr nesaf
Mae cynlluniau ar gyfer amddiffynfeydd môr newydd i helpu i amddiffyn y Mwmbwls am ddegawdau i ddod wedi cymryd cam mawr arall ymlaen.
Heddiw, cymeradwyodd Cabinet y cyngor gytundeb ariannu'r cynllun rhwng Llywodraeth Cymru a'r cyngor, y gost adeiladu a dyfarnu'r contract adeiladu.
Bydd y cyngor nawr yn cyflwyno ei achos busnes terfynol i Lywodraeth Cymru ar gyfer ei gymeradwyo.
Os caiff hwnnw ei gymeradwyo, bydd y prosiect a gyflwynir gan y cyngor - sydd wedi bod yn destun sawl blwyddyn o gynllunio ac ymgynghori gofalus - yn symud ymlaen i'r cam adeiladu, a fydd yn dilyn ymagwedd fesul cam o ddiwedd y flwyddyn eleni i o gwmpas haf 2024.
Mae'r cyngor yn bwriadu enwi'r contractwr yn gyhoeddus yn yr wythnosau nesaf ac yn parhau i roi'r newyddion diweddaraf i gynghorwyr wardiau lleol am y cynllun a dderbyniodd ganiatâd cynllunio ym mis Ebrill.
Bydd yn gweithio gyda'r contractwr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd a busnesau am sut y bydd y gwaith yn cael ei gyflwyno fesul cam ar gyfer y prosiect adeiladu mawr hwn.
Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd yng nghyfarfod y Cabinet, "Mae Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfle sylweddol i ni ddod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy i broblemau cyfredol cyflwr morglawdd y Mwmbwls, a mynd i'r afael â pherygl llifogydd tymor hir sy'n effeithio ar y gymuned.
"Bydd hefyd yn cefnogi potensial datblygu ac adfywio'r ardal yn y dyfodol gan sicrhau gwelliannau i werth amwynder a hamdden y promenâd a'i ddefnydd fel atyniad pwysig i ymwelwyr."
Cynlluniau - www.bit.ly/MSDplanapp
Llun: Sut y gallai rhan o brom y Mwmbwls edrych cyn bo hir yn ardal Gerddi Hennebont.