Siediau dynion yn croesawu hwb ariannol
Mae mwy nag 20 o siediau dynion ledled Abertawe wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid gan y cyngor i gefnogi eu gwaith i ddarparu lleoedd cyfeillgar lle gall dynion a menywod gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgareddau a dysgu sgiliau newydd os dymunant wneud hynny.
Maent yn cynnwys dwy sied newydd ym Mhafiliwn Parc Jersey a Chlwb Bowls Sgeti, ac mae'r aelodau'n dweud y bydd y grantiau hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r hyn y maen nhw'n ei ddarparu.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Abertawe wedi buddsoddi mwy na £100,000 mewn cefnogi grwpiau newydd a phresennol, ac mae'r rhwydwaith siediau dynion wedi tyfu, a bellach mae dros 25 ohonynt.
Ym mis Mai, gwahoddwyd grwpiau i wneud cais am gyllid, a bydd mwy nag 20 ohonynt bellach yn rhannu gwerth £25,000 o gyllid ychwanegol.
Mae David Lloyd o Bort Tennant ymhlith y rhai a oedd yn bresennol mewn cyfarfodydd cymdeithasol wythnosol rhwng 2.30pm a 4.30pm bob dydd Mercher ym Mhafiliwn Parc Jersey.
Meddai, "Mae'n amgylchedd hamddenol, ac rydym yn gobeithio ehangu'r grŵp hwn, diolch i'r cyllid gan Gyngor Abertawe, a'r nod croesawu hyd yn oed mwy o aelodau."

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Mae twf rhwydwaith siediau dynion Abertawe yn stori lwyddiant go iawn. Mae'r grwpiau hyn yn darparu cyfleoedd cymdeithasol gwych i gannoedd o bobl bob wythnos.
"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu chwarae ein rhan wrth wireddu hyn."