Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyn busnes yn canmol y gwaith i adfywio Abertawe

Mae dyn busnes sy'n gyfrifol am adfer ac ailagor adeilad hanesyddol Neuadd Albert yn Abertawe wedi canmol y gwaith i adfywio'r ddinas.

Simon Baston

Simon Baston

Mae Simon Baston, cyfarwyddwr Loft Co, yn dweud bod gan Abertawe ddyfodol disglair o ganlyniad i nifer y prosiectau sydd wedi'u cwblhau, sy'n parhau ac sydd yn yr arfaeth fel rhan o fuddsoddiad gwerth mwy nag £1bn.

Yn dyddio yn ôl i 1864, mae adeilad pedwar llawr Neuadd Albert ar Craddock Street bellach yn cynnwys neuadd fwyd a bar, man adloniant preifat, swyddfeydd, stiwdios, llety i ymwelwyr, campfa a gardd ar y to.

Mae'r gwaith adnewyddu wedi cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth gan Gyngor Abertawe.

Meddai Mr Baston: "Rydym yn falch bod Neuadd Albert bellach wedi ailagor, ac mae'r adborth gan gwsmeriaid hyd yn hyn wedi bod yn galonogol iawn.

"Dyma un o'r prosiectau niferus sy'n trawsnewid Abertawe, gan fod adeilad Theatr y Palas ar fin ailagor y mis nesaf hefyd.

"Mae Cyngor Abertawe wedi gwneud gwaith gwych wrth fuddsoddi yn y ddinas ac mae hyn wedi helpu i ddenu'r sector preifat i fuddsoddi hefyd.

"Mae'r arena ar agor, mae cynlluniau swyddfa newydd ar fin cael eu cwblhau ac mae digon o bethau yn yr arfaeth ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

"Mae hyn yn helpu i godi proffil Abertawe ledled y DU, yn ogystal â chreu swyddi a mwy o leoliadau i bobl leol eu mwynhau."

Bydd adeilad Theatr y Palas ar y Stryd Fawr, a weithredir gan Tramshed Tech, yn ailagor ddydd Iau 7 Tachwedd.

Mae'r cynlluniau eraill dan arweiniad Cyngor Abertawe'n cynnwys hwb gwasanaethau cymunedol Y Storfa, a adeiladir ar safle hen uned BHS ar Stryd Rhydychen.

Mae swyddfeydd newydd a ariennir yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe'n cael eu datblygu yn 71/72 Ffordd y Brenin, ac mae cynlluniau ar waith i ailwampio Gerddi Sgwâr y Castell.

Mae hwb sector cyhoeddus a fydd yn darparu ar gyfer bron 1,000 o weithwyr wedi'i gynnig ar gyfer safle hen Ganolfan Siopa Dewi Sant fel rhan o ddatblygiad mwy dan arweiniad Urban Splash.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Hydref 2024