Toglo gwelededd dewislen symudol

Siopwch yn Lleol, Siopwch yn Nhre-gŵyr

Mae gan Dre-gŵyr amrywiaeth o fusnesau i ddewis ohonynt.

Mae'r busnesau'n cynnwys cigydd, pobydd, siop anifeiliaid anwes, siop offer pysgota, siop trin gwallt, golchdy, siop goffi, siopau cludfwyd a sgwteri symudedd.

Mae hefyd lyfgrell ar gael ar Mansel Street: Llyfrgell Tregŵyr

Siopa a bwyta'n lleol yw un o'r pethau y gall pobl ei wneud i gefnogi eu heconomi leol a sicrhau bod yr ardal yn elwa o swyddi ac arian. Er enghraifft, petai pawb yng Nhre-gŵyr yn gwario £5 yn ychwanegol bob wythnos yn eu busnesau annibynnol lleol, byddai hyn yn creu dros £1 miliwn* y flwyddyn ar gyfer economi Tre-gŵyr.

Rhestr o fusnesau yn Nhre-gŵyr (Excel doc) [17KB]
Tregŵyr - cynllun (PDF) [1MB]

Gwybodaeth am fusnesau: Mae'r wybodaeth sydd yn y dogfennau uchod yn seiliedig ar arolwg a gynhaliwyd ym mis Medi 2020 (gan gynnwys newidiadau dilynol rydym wedi'ch hysbysu yn eu cylch). Os yw'r wybodaeth sy'n ymwneud â busnes neu sefydliad bellach wedi dyddio, rhowch wybod i ni.

 

totallylocally.org (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith