Siopwch yn Lleol, Siopwch yn Sgeti
Mae gan Sgeti amrywiaeth o fusnesau i ddewis ohonynt.
Mae amrywiaeth o fusnesau i'w cael o gwmpas Croes Sgeti ac ardal Eversley Road gerllaw gan gynnwys gwasanaethau torri allweddi, golchdy, siop trin gwallt a salonau harddwch, fferyllydd, cyfres o gaffis ac is-swyddfa bost.
Mae Sgeti hefyd yn agos i Barc Singleton ac mae llyfrgell ar Vivian Road i'r gogledd o'r groes.
Siopa a bwyta'n lleol yw un o'r pethau y gall pobl ei wneud i gefnogi'u heconomi leol a sicrhau bod yr ardal yn elwa o swyddi ac arian. Er enghraifft, petai pawb yn Sgeti yn gwario £5 yn ychwanegol bob wythnos yn eu busnesau annibynnol lleol, byddai hyn yn creu dros £2.3 miliwn* y flwyddyn ar gyfer economi Sgeti.
Rhestr o fusnesau yn Sgeti (Excel doc, 20 KB)
Sgeti - cynllun (PDF, 2 MB)
Gwybodaeth am fusnesau: Mae'r wybodaeth sydd yn y dogfennau uchod yn seiliedig ar arolwg a gynhaliwyd yn haf 2021 (gan gynnwys newidiadau dilynol rydym wedi'ch hysbysu yn eu cylch). Os yw'r wybodaeth sy'n ymwneud â busnes neu sefydliad bellach wedi dyddio, rhowch wybod i ni.