Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Siopwch yn Lleol, Siopwch yng Nghilâ

Mae gan Gilâ amrywiaeth o fusnesau i ddewis ohonynt.

Mae'r busnesau'n cynnwys cigydd, pobydd, siop anifeiliaid anwes, golchdy, siop goffi a siopau cludfwyd.

Mae llyfrgell yno hefyd: Llyfrgell Cilâ

Siopa a bwyta'n lleol yw un o'r pethau y gall pobl ei wneud i gefnogi eu heconomi leol a sicrhau bod yr ardal yn elwa o swyddi ac arian. Er enghraifft, petai pawb yng Nghilâ'n gwario £5 yn ychwanegol bob wythnos yn eu busnesau annibynnol lleol, byddai hyn yn creu dros £1 miliwn* y flwyddyn ar gyfer economi Cilâ.

Rhestr o fusnesau yng Nghilâ (Excel doc) [18KB]
Cilâ - cynllun 1 (o dafarn The Black Boy hyd at y ganolfan siopa) (PDF) [1MB]
Cilâ - cynllun 2 (o dafarn The Black Boy hyd at Gilâ Uchaf a Dynfant) (PDF) [1MB]

Gwybodaeth am fusnesau: Mae'r wybodaeth sydd yn y dogfennau uchod yn seiliedig ar arolwg a gynhaliwyd ym mis Medi 2020 (gan gynnwys newidiadau dilynol rydym wedi'ch hysbysu yn eu cylch). Os yw'r wybodaeth sy'n ymwneud â busnes neu sefydliad bellach wedi dyddio, rhowch wybod i ni.

 

totallylocally.org (Yn agor ffenestr newydd)