Toglo gwelededd dewislen symudol

Siopwch yn Lleol, Siopwch yng Nghlydach

Mae gan Glydach amrywiaeth o siopau, lleoedd i fwyta a chyfleusterau cymunedol.

Mae'r rhain yn amrywio o siop gig, siopau trin gwallt, siop nwyddau metel i grefftau a chynnyrch lleol.

Mae Canolfan Gymunedol Forge Fach (Yn agor ffenestr newydd) yng Nghlydach yng nghalon y gymuned ac mae'n cynnwys rhywbeth i bawb, yn ogystal â Llyfrgell Clydach, sydd hefyd yn cynnig cyfleusterau cyfrifiadurol.

Siopa'n lleol yw un o'r pethau y gall pobl ei wneud i gefnogi eu heconomi leol a sicrhau bod yr ardal yn elwa o swyddi ac arian. Er enghraifft, petai pawb yng Nghlydach yn gwario £5 yn ychwanegol bob wythnos yn eu busnesau annibynnol lleol, byddai hyn yn creu dros £1.2 miliwn* y flwyddyn ar gyfer economi Clydach.

Rhestr o fusnesau yng Nghlydach (Excel doc, 15 KB)
Clydach - cynllun 1 (Hebron Road) (PDF, 1 MB)
Clydach - cynllun 2 (Y Stryd Fawr) (PDF, 1 MB)
Clydach - cynllun 3 (Y Stryd Fawr - Gorsaf yr Heddlu – Adeiladau’r Capel) (PDF, 1 MB)

Gwybodaeth am fusnesau: Mae'r wybodaeth sydd yn y dogfennau uchod yn seiliedig ar arolwg a gynhaliwyd ym mis Medi 2024 (gan gynnwys newidiadau dilynol y cawsom wybod amdanynt). Os yw'r wybodaeth sy'n ymwneud â busnes neu sefydliad bellach wedi dyddio, rhowch wybod i ni.

 

totallylocally.org (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Medi 2024