Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisio adborth am gynigion ar gyfer tri pharc sglefrio arall yn Abertawe

Gall y rhai hynny sy'n dwlu ar sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog ac aelodau'r cyhoedd bellach roi adborth ar-lein am y dyluniadau cychwynnol i wella tri pharc sglefrio arall mewn cymdogaethau yn Abertawe.

Skateboarding

Skateboarding

Mae'r lluniau hyn yn dangos y cyfleusterau gwell a gynigir ar gyfer Canolfan y Ffenics yn Townhill, Mynydd Newydd ym Mhen-lan a Choed Bach ym Mhontarddulais.

Mae'r rhain ymysg y parciau sglefrio mewn cymdogaethau a fydd yn elwa o fuddsoddiad gwerth tua £3m gan Gyngor Abertawe mewn cyfleusterau sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog ledled y ddinas.

Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda chymunedau lleol a chwmni arbenigol o'r enw Curve Studio sydd wedi cyhoeddi'r ymgynghoriad ar-lein.

Mae hyn yn dilyn gweithdai galw heibio a gynhaliwyd yn Townhill, Pen-lan a Phontarddulais ar ddiwedd mis Tachwedd.

Gallwch roi adborth am y dyluniadau cychwynnol ar gyfer Townhill, Mynydd Newydd a Choed Bach drwy ddilyn y ddolen hon i'r arolwg cyn y Nadolig.

Townhill skate park proposal

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog eraill yn boblogaidd iawn yn Abertawe, felly rydym am wneud yn siŵr y gall pobl sy'n mwynhau'r gweithgareddau hyn gael mynediad at gyfleusterau gwych.

"Mae'n bwysig cael adborth y rhai hynny a fydd yn defnyddio'r cyfleusterau gan eu bod yn gwybod yn well nag unrhyw un arall am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn sy'n bodloni eu disgwyliadau.

"Dyna pam byddem yn annog y rhai hynny sy'n frwd dros sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog a phobl eraill i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein hwn, sy'n dilyn adborth uniongyrchol a gasglwyd mewn gweithdai ym Mhontarddulais, Townhill a Phen-lan ar ddiwedd mis Tachwedd.

"Cyhoeddir rhagor o leoliadau i elwa o welliannau tebyg yn y flwyddyn newydd fel rhan o gynllun a chanddo'r nod o sicrhau na fydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl yn Abertawe deithio am fwy na dwy filltir i gyrraedd parc sglefrio ar ei newydd wedd mewn cymdogaeth."

Cyhoeddwyd hefyd y bydd gwelliannau i ardal rampiau sglefrio Parc Fictoria. Mae sglefrfyrddwyr a'r gymuned leol wedi helpu i lywio'r cynnig ar gyfer cyfleuster tebyg i sgwâr stryd yno, diolch i weithdy a gynhaliwyd ym mis Hydref.

Coed Bach skate park proposal

Mynyddbach skate park proposal

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Rhagfyr 2024