Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb sylweddol i sglefrfyrddio a beicio BMX

Mae cynlluniau i wneud Abertawe'n un o'r dinasoedd gorau yn y DU ar gyfer sglefrfyrddio, beiciau BMX a chwaraeon tebyg wedi cael hwb gwerth £1m.

Skateboarding

Skateboarding

Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i fuddsoddi £1m arall ar ben y cyllid gwerth £1m a glustnodwyd eisoes i ddatblygu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar draws y ddinas, gan ddarparu cyfleoedd gwell i'r rhai hynny sy'n sglefrfyrddio, yn reidio sgwteri, yn dwlu ar BMX ac yn sglefrolio.

Yn dilyn proses gaffael helaeth, penodwyd Curve Studio - cwmni rhyngwladol sy'n arbenigo mewn parciau sglefrolio - i fapio cyfleusterau presennol, asesu amgylchiadau a chyfleoedd, a helpu i gynnal ymgynghoriad i lunio'r cynlluniau uchelgeisiol.

Nawr, wrth i gefnogwyr yn y DU baratoi i wylio tîm sglefrolio a thîm BMX elît y wlad yn cystadlu ym Mharis, mae'r cyngor yn ymrwymo rhagor o gyllid i'r prosiect.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae sglefrfyrddio a reidio beiciau BMX bob amser wedi bod yn hynod boblogaidd yn Abertawe. Mae lleoliadau o gwmpas y ddinas eisoes lle gall y rhai hynny sy'n frwd dros y gweithgareddau hyn fwynhau eu hoff gamp.

"Ond ein cynllun i'r dyfodol yw uwchraddio cyfleusterau'n sylweddol, ac efallai y bydd hynny'n galluogi pobl ifanc leol sy'n cael eu blas cyntaf ar y campau hyn yn Abertawe i gynrychioli ein gwlad ar y llwyfan rhyngwladol yn ystod y blynyddoedd i ddod.

"Bydd yr arian ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth mawr a'n helpu i ehangu ein huchelgeisiau, ac yn lledaenu gwelliannau hyd yn oed ymhellach, yn unol â'r galw amlwg a fynegwyd drwy'r ymgynghoriad gan Curve."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Medi 2024