Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Dewch i weithdai i drafod mwy o gynlluniau i wella parciau sglefrio

Bydd cynlluniau cychwynnol i wella tri pharc sglefrio arall mewn cymdogaethau yn Abertawe'n cael eu datgelu'n fuan

Skateboarder

Skateboarder

Cynhelir gweithdai ddydd Sadwrn 23 Tachwedd lle gall sglefrfyrddwyr, pobl sy'n dwlu ar chwaraeon ar olwynion ac aelodau'r cyhoedd roi adborth ar gynlluniau cynnar ar gyfer ardaloedd parciau sglefrio yng Nghanolfan y Ffenics yn ardal Townhill, Mynydd Newydd ym Mhen-lan a Choed Bach ym Mhontarddulais.

Dyma fanylion y gweithdai a drefnwyd ar gyfer pob datblygiad arfaethedig:

Parc Sglefrio Townhill

10.00am - 11.30pm - Canolfan y Ffenics, Townhill (gofynnwch wrth y Dderbynfa pan fyddwch yn cyrraedd) - Powys Avenue, Townhill, Abertawe SA1 6PH

Parc Sglefrio Mynydd Newydd

12.30pm - 2.00pm - Canolfan Hamdden Pen-lan, Pen-lan (gofynnwch wrth y Dderbynfa pan fyddwch yn cyrraedd) - Heol Gwyrosydd, Pen-lan, Abertawe SA5 7BU

Parc Sglefrio Coed Bach

3.00pm - 4.30pm - Sefydliad y Mecanyddion, Pontarddulais (prif neuadd) - 45 St Teilo Street, Pontarddulais, Abertawe SA4 8SY

Bydd gwelliannau arfaethedig i'r tri pharc sglefrio hyn yn rhan o fuddsoddiad gwerth £2 filiwn gan Gyngor Abertawe mewn cyfleusterau sglefrfyrddio a chwaraeon ar olwynion ar draws y ddinas.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Tachwedd 2024