Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor Abertawe yn croesawu agoriad parc sglefrio

Mae Cyngor Abertawe wedi croesawu agoriad parc sglefrio'r Mwmbwls.

Skatepark Handover

Skatepark Handover

Gwnaed y prosiect ar y prom yn Llwynderw yn bosib diolch i berchennog y safle, Cyngor Abertawe, am brydlesu'r lleoliad i Gyngor Cymuned y Mwmbwls.

Y cyngor cymuned sy'n arwain y prosiect a gafodd ganiatâd cynllunio'r llynedd. Roedd y lleoliad yn arfer bod yn gartref i gyfleusterau sglefrio llai datblygedig.

Meddai Cyd-ddirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe, David Hopkins, "Bydd y parc sglefrio yn helpu i wella iechyd, lles a ffitrwydd meddyliol a chorfforol pobl. Rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu i wireddu'r prosiect."

Meddai cyd-aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Dymunwn y gorau i bawb sy'n ymwneud â'r parc sglefrio ar gyfer ei ddyfodol.

"Mae'r parc mewn lleoliad da ar gyfer sglefrfyrddwyr ac mae ganddo lawer o bethau cadarnhaol eraill fel y potensial i wella ardal weithgareddau Blackpill ymhellach."

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Cymuned y Mwmbwls, "Mae'r contractwyr, Maverick Industries, wedi trosglwyddo'r parc sglefrio yn ffurfiol i ni. Mae'r parc bellach ar agor ac mae'n bosib cael mynediad iddo o'r promenâd.

"Nid yw'r gwaith tirlunio wedi'i gwblhau eto, felly gofynnwn i ddefnyddwyr gadw oddi ar y pridd noeth a'r ardaloedd lle mae hadau wedi'u plannu wrth iddynt sefydlu.

"Hoffem ddiolch i Maverick am greu parc sglefrio o safon fyd-eang sy'n hygyrch i bawb - a diolch i bawb a fu'n ymwneud â gwireddu'r prosiect gwych hwn."

Mae digwyddiad agor ffurfiol yn cael ei gynllunio ar gyfer yr haf hwn.

Llun: O'r chwith ym mharc sglefrio'r Mwmbwls - Jamie Rewbridge o Gyngor Abertawe, Carrie Townsend Jones o Gyngor Cymuned y Mwmbwls a Russ Holbert o Maverick Skateparks.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023