Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymuned sglefrfyrddio'n cefnogi cynlluniau yn Abertawe

Mae dau aelod o gymuned sglefrfyrddio Abertawe wedi rhoi eu cefnogaeth i fuddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau chwaraeon olwynog ar draws y ddinas.

Swansea skateboarder Will Muxworthy

Swansea skateboarder Will Muxworthy

Mae Kate Leonard, cyd-sylfaenydd Parc Sglefrio Exist yn Mount Pleasant, a Jon Lawton, hyfforddwr ym Mharc Sglefrio Exist, yn dweud y bydd cyfleusterau gwell yn ateb y galw ac yn helpu i roi hwb i boblogrwydd y gamp. 

Mae Cyngor Abertawe, sy'n gweithio mewn partneriaeth â chwmni arbenigol o'r enw Curve Studio, yn buddsoddi £2.8m mewn cyfleusterau chwaraeon olwynog mewn sawl cymuned. 

Mae cyfleusterau wedi'u gwella bellach ar gael i'w defnyddio ym Mharc Coed Bach ym Mhontarddulais a Pharc Melin Mynach yng Ngorseinon. Disgwylir y bydd gwaith yn dechrau ym Mharc Victoria ym mis Awst ar gyfleuster tebyg i sgwâr stryd. 

Mae safleoedd eraill a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer gwelliannau i barciau sglefrio mewn cymdogaethau yn cynnwys Mynydd Newydd ym Mhen-lan a Chanolfan y Ffenics yn Townhill.

Mae cynlluniau'r cyngor yn golygu na fydd angen i bobl yn y rhan fwyaf o ardaloedd y ddinas deithio mwy na dwy filltir i gyrraedd cyfleuster sydd wedi'i wella.

Agorodd Kate Leonard Barc Sglefrio Exist gyda'i phartner, Ric Cartwright, yn 2011.

Kate & Ric (Exist Skatepark)

Meddai Kate, "Rydym yn gyffrous iawn am fuddsoddiad y cyngor oherwydd y bydd yn tyfu cymuned sglefrfyrddio Abertawe ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl sy'n dwlu ar chwaraeon olwynog ddefnyddio'u hegni. 

"Bydd ein cyfleuster yn Exist yn ategu'r holl welliannau a wnaed i barciau sglefrio mewn cymdogaethau neu'r rheini sydd wedi'u cynllunio, felly nid ydym yn gweld y buddsoddiad fel cystadleuaeth. 

"Mae diffyg gwybodaeth am sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog eraill wedi bod dros y blynyddoedd, er bod y Gemau Olympaidd wedi codi proffil y gweithgareddau hyn ac wedi'u dilysu/cadarnhau.

"Pan fyddwch yn sglefrfyrddio, mae'n golygu nad ydych chi ar eich ffôn clyfar drwy'r amser ac mae hefyd yn wych ar gyfer gwneud ffrindiau a meithrin hyder.

"Mae pobl o bob oedran yn mwynhau sglefrfyrddio - o bobl yn eu 50au i blant mor ifanc â 6 oed. Mae'r diwylliant yn sicrhau bod pobl yn parhau â'r gamp am flynyddoedd gyda chymuned sydd wedi'i seilio ar werthoedd fel parch, dysgu a chyfeillgarwch."

Mae Jon Lawton, 20 oed, wedi bod yn sglefrio ers wyth mlynedd. 

Swansea skateboarder Jon Lawton

Meddai Jon, "Mae pobl eisiau'r gwelliannau hyn. Rydyn ni wedi ymdopi ag ychydig o gyfleusterau yn y gorffennol ond nid yw sglefrio wedi cael cyfle i dyfu, felly bydd hynny'n newid nawr oherwydd y buddsoddiad hwn.

"Mae hefyd wedi bod yn wych gweld bod y cyngor yn gwrando ac yn gweithredu'n dilyn adborth gan sglefrfyrddwyr lleol a chefnogwyr chwaraeon olwynog eraill.

"Mae Curve Studio yn wybodus ac mae'r cyfleusterau hyn wedi'u dylunio gan sglefrfyrddwyr dan ddylanwad sglefrfyrddwyr.

"Bydd y gwelliannau niferus i safleoedd sydd wedi'u cynllunio ar draws Abertawe'n rhoi llawer o amrywiaeth, felly bydd llawer o sglefrfyrddwyr lleol yn mynd i bob un ohonynt. 

"Bydd mwy o gyfleusterau'n annog mwy o bobl i ddechrau sglefrfyrddio. Pan roeddwn i'n iau, rwy'n siŵr y gwnes i dreulio dau haf cyfan yn olynol ym Mharc Victoria, felly mae'n wych gweld y cynlluniau gwych ar gyfer ardal y ramp sglefrfyrddio  yno.

"Bydd y gwelliannau ar draws y ddinas hefyd yn annog pobl o'r tu allan i Abertawe i ymweld â'r cyfleusterau sydd wedi'u huwchraddio, gan helpu i godi proffil Abertawe fel lle gwych ar gyfer sglefrfyrddio a chwaraeon olwynog eraill."

Mae cynlluniau hefyd yn cynnwys trac pwmpio  newydd i feicwyr BMX newydd ac iau ym Melin Mynach, a bydd y trac pwmpio presennol yn Nyffryn Clun yn cael ei adnewyddu.

Mae ymgynghori'n parhau ynghylch parc sglefrio gwell yn Ynystawe, cyfleuster beicio bach ym Mlaen-y-maes, cyfleuster sy'n canolbwyntio ar feicio BMX yn Nhre-gŵyr a thrac pwmpio yn Llandeilo Ferwallt.

Bydd manylion safleoedd eraill i elwa'n cael eu cyhoeddi maes o law.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Gorffenaf 2025