Ysgol yn arwain y ffordd mewn cystadleuaeth ailgylchu batris
Mae Ysgol Gynradd Sgeti wedi arwain y ffordd mewn cystadleuaeth ledled Abertawe i annog ysgolion i gasglu ac ailgylchu hen fatris.
Hedfanodd masgot ailgylchu Cyngor Abertawe, Sammy'r Wylan, i'r ysgol i longyfarch y disgyblion a'r staff a chyflwyno talebau Amazon iddynt i'w gwario ar yr ysgol a thystysgrif i gydnabod eu cyflawniad.
Ymunodd y cyngor â'r European Recycling Platform (ERP) i gynnal y gystadleuaeth gyntaf a welodd 29 o ysgolion yn cymryd rhan yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Rhwng yr holl ysgolion a gymerodd ran, gwnaethon nhw ailgylchu dros dunnell o fatris.
Ysgol Gynradd Sgeti oedd ar y brig gyda 254kg o fatris, a daeth Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw yn ail ac Ysgol Gynradd Brynmill yn drydydd.
Enillodd yr holl ysgolion a orffennodd yn y 10 safle uchaf dalebau am eu hymdrechion.
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Cymunedol, Cyril Anderson, "Hoffwn longyfarch Ysgol Gynradd Sgeti a'r holl ysgolion eraill a gymerodd ran.
"Mae batris yn cynnwys rhai o'r deunyddiau mwyaf gwerthfawr ar y ddaear y gellir eu hailgylchu yn ddiddiwedd, ond pan fyddant yn cael eu taflu yn y bin gyda sbwriel cyffredinol, gallant gael eu malu mewn lorïau casglu sbwriel a sbarduno tanau peryglus, felly dylid eu hailgylchu bob amser.
"Mae llwyddiant y gystadleuaeth eleni yn golygu ein bod yn ail-gynnal y gystadleuaeth yn y flwyddyn academaidd hon, ac mae 38 o ysgolion eisoes wedi cofrestru ac yn cymryd rhan.
"Mae amser o hyd i ysgolion eraill ymuno - cysylltwch â'n tîm ailgylchu drwy e-bostio recycling@abertawe.gov.uk."
