Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Sgeti
Ysgol Gynradd Sgeti yw'r ysgol ddiweddaraf yn Abertawe i ennill Gwobr Aur y Siarter Iaith.
Dyma fenter ledled Cymru sy'n annog pobl ifanc i siarad Cymraeg ym mhob agwedd ar eu bywyd, ac nid yn ystod gwersi'n unig.
Sgeti yw'r bumed ysgol yn Abertawe i ennill y wobr aur a dywedodd y pennaeth, Bev Phillips, mai ymdrech ar y cyd ydoedd.
Meddai, "Mae'r llwyddiant hwn yn adlewyrchu ymroddiad, gwaith caled a brwdfrydedd ein tîm cyfan - staff, plant, rhieni, gofalwyr, llywodraethwyr a gwasanaeth Cymraeg y cyngor sydd wedi gweithio'n ddiflino i'n galluogi i gyflawni'r safonau uchaf.
"Yn ogystal â bod yn anrhydedd, mae derbyn Gwobr Aur y Siarter Iaith yn dangos ein hymdrechion parhaus i hyrwyddo'r Gymraeg, meithrin diwylliant o barch ac amrywiaeth a chynnig profiadau addysgol rhagorol. Rydym yn diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at y llwyddiant hwn."
Ychwanegodd Jo Griffiths, arweinydd pwnc y Gymraeg yn Ysgol Gynradd Sgeti, "Bu'n daith hynod gyffrous a buddiol dros y tair blynedd diwethaf, wrth weithio i godi proffil a safon y Gymraeg ledled ein hysgol a'n cymuned leol.
"Mae ein Criw Cymraeg gwych wedi bod wrth wraidd popeth - gan arwain digwyddiadau fel Bore Coffi, helfa drysor Dewi, ymweliadau ysgol, gigiau cerddoriaeth Gymraeg a mwy. Mae'r cyffro sy'n cyd-fynd â'r Gymraeg a'n cynefin i'w weld ym mhob rhan o'n hysgol.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, Robert Smith, "Mae angen llawer o waith caled ac ymrwymiad i ennill y wobr aur, felly mae'n destun pleser mawr gweld Ysgol Gynradd Sgeti'n llwyddo i wneud hyn ac rwy'n llongyfarch pawb dan sylw."