Toglo gwelededd dewislen symudol

Datblygiad llinell sip a cheir llusg i agor yn Abertawe yn 2025

Mae cwmni o Seland Newydd sydd y tu ôl i gynigion i adeiladu parc antur awyr agored gan gynnwys llinellau sip, siglen awyr, ceir llusg a system raffbont ar Fynydd Cilfái Abertawe yn y camau olaf o gwblhau ei ddiwydrwydd dyladwy.

Skyline CGI DO NOT USE (Old)

Skyline CGI DO NOT USE (Old)

Er gwaethaf y ffaith bod y pandemig byd-eang wedi arafu'r cynnydd, meddai Geoff McDonals, Prif Swyddog Gweithredol Skyline Enterprises, fod gwaith cynllunio a chydosod tir yn mynd rhagddo.

Roedd cynigion hefyd yn cynnwys lleoliadau bwyd a diod a llwyfan gwylio panoramig ar Fynydd Cilfái gyda golygfeydd ar draws Bae Abertawe fel rhan o atyniad sy'n bwriadu agor yn 2025.

Mae trafodaethau cadarnhaol gyda Chyngor Abertawe yn parhau ochr yn ochr â'r potensial i Skyline Enterprises weithio gyda datblygwr sector preifat arall er mwyn ychwanegu elfen ddigidol y gellir ymgolli ynddi at yr atyniad.

Meddai Mr McDonald, "Mae'n anochel bod y pandemig wedi arafu'r cynnydd, ond mae gwaith dylunio a chydosod tir yn mynd rhagddo wrth i ni gwblhau ein diwydrwydd dyladwy.

"Mae trafodaethau cadarnhaol yn parhau â Chyngor Abertawe a phartneriaid eraill, a bwriedir agor yr atyniad yn 2025.

"Nawr ein bod ni'n dechrau dod allan o'r pandemig, rydym yn gobeithio cyflymu'n paratoadau ar gyfer y cynllun cyffrous hwn, a gallai hynny gynnwys elfen ddigidol yn awr i ychwanegu at y profiad ymweld.

"Rydym yn parhau i fod yn frwdfrydig ac yn ymroddedig i fod yn rhan o'r rhaglen adfywio gwerth £1bn sydd eisoes ar waith yn Abertawe."

Mae Skyline Enterprises yn rhedeg dau gyrchfan sy'n cynnwys reidiau ceir cebl ac atyniadau eraill yn Seland Newydd, yn ogystal â pharciau ceir llusg yng Nghanada, De Corea a Singapore. Yr atyniad ceir cebl arfaethedig ar gyfer Abertawe fyddai un cyntaf y cwmni y tu allan i Seland Newydd.

Mae Mynydd Cilfái yn Abertawe, sy'n 193 metr o uchder, yn mwynhau golygfeydd dros Fae Abertawe, y marina, SA1, ardal newydd Bae Copr, Stadiwm Liberty a safle Gweithfeydd Copr hanesyddol yr Hafod-Morfa.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cwmni ar ei wefan gorfforaethol yn https://www.skylineluge.com/en/corporate/

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Mawrth 2022