Prosiect Skyline yn symud cam yn agosach gyda'r ymchwiliad safle
Bydd gwaith ymchwilio safle'n cael ei wneud cyn bo hir ar Fynydd Cilfái wrth i gynlluniau ar gyfer cyrchfan hamdden awyr agored newydd symud yn eu blaenau'n gyflym.
Mae'r gwaith hwn yn gam ymlaen arall ar gyfer datblygiad dan arweiniad y cwmni o Seland Newydd, Skyline Enterprises, sydd wedi cynnig cynnwys car cebl, system cadeiriau codi, llwybrau ceir llusg, llwybrau cerdded, weiren wib a chynigion bwyd a diod.
Byddai'r system ceir cebl arfaethedig yn rhedeg i ben Mynydd Cilfái o ardal Gwaith Copr yr Hafod-Morfa, felly bydd rhai lleoedd yng nghyfleuster parcio a theithio Glandŵr ar gau i'r cyhoedd wrth i waith ymchwilio gael ei wneud ar y safle hwnnw hefyd.
Os cymeradwyir hyn, ni fyddai unrhyw agwedd ar y cynllun yn pasio uwchben cartrefi pobl.
Gan ddechrau 29 Tachwedd, disgwylir i'r gwaith ymchwilio safle, sydd wedi'i gomisiynu gan Skyline Enterprises, gymryd tua thair wythnos i'w gwblhau.
Mae'r gwaith hwn ymysg y mesurau sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno cais cynllunio a fydd yn rhoi digon o gyfleoedd i ddarparu adborth ar y cynllun.
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Mae gosodiad a chynigion y cynllun ar gyfer y datblygiad cyffrous hwn yn agos at gael eu cwblhau, ond mae angen gwaith ymchwilio safle hefyd fel y gall y cynllun symud yn ei flaen.
"Bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio manylion cais cynllunio a fydd ar gael i'r cyhoedd roi adborth arno cyn gynted ag y caiff ei gyflwyno.
"Mae'r hyn sy'n cael ei gynnig gan Skyline Enterprises ar gyfer Mynydd Cilfái yn atyniad hamdden o'r radd flaenaf ar gyfer pobl Abertawe ac ymwelwyr â'r ddinas, er, hoffwn dawelu meddyliau preswylwyr mewn cymunedau sy'n agos i'r datblygiad arfaethedig drwy ddweud na fydd unrhyw agwedd ar y cynllun yn pasio dros eu cartrefi.
"Os caiff y cynllun ei gymeradwyo, mae disgwyl iddo ddenu nifer mawr o ymwelwyr wrth greu swyddi i bobl leol a rhoi hwb economaidd pellach i'n dinas."
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Gwyddwn fod cerddwyr, rhedwyr a sawl grŵp lleol yn mwynhau Mynydd Cilfái, felly byddwn yn sicrhau bod y cyhoedd cyffredinol - gan gynnwys cerddwyr a beicwyr mynydd - yn dal i allu defnyddio'r ardal, ac y caiff gwelliannau eu gwneud fel bod y mynydd yn parhau i fod yn lle gwyrdd i bawb."
Llun: Sut gallai Skyline edrych yn Abertawe