Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor yn cefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach

Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach drwy barhau i annog pobl i siopa'n lleol.

Shopping in mask

Shopping in mask

Mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach a gynhelir ddydd Sadwrn 4 Rhagfyr yn ymgyrch llawr gwlad ledled y DU sy'n annog pobl i gefnogi busnesau bach yn eu cymunedau.

Mae apêl Cyngor Abertawe'n dilyn y miliynau o bunnoedd y mae'r awdurdod eisoes wedi'i neilltuo i helpu busnesau Abertawe i adfer o effaith y pandemig.

Mae hyn yn cynnwys grantiau celfi awyr agored a'r cyfle i fusnesau ledled y ddinas wneud cais am grantiau i wella golwg eu heiddo fel rhan o gronfa adfer economaidd y cyngor, a gynyddwyd yn ddiweddar o £20m i £25m.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae ein busnesau bach lleol wedi bod yno i ni drwy gydol y pandemig ac mae'r cyngor yno iddyn nhw hefyd.

"Felly yn ogystal â phopeth rydyn ni'n ei wneud fel cyngor i helpu'n busnesau bach fel rhan o'n cronfa adferiad economaidd, rydyn ni hefyd yn parhau i annog pobl ledled Abertawe i gefnogi'u masnachwyr lleol ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach a thu hwnt. Mae hyn yn bwysig am ei fod yn helpu i roi hwb i'r economi leol yn ogystal â chynnal a chreu swyddi ar gyfer pobl leol."

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Busnesau bach yw enaid cymunedau Abertawe felly maent yn haeddu ein cefnogaeth yn fawr.

"O fusnesau arloesol newydd i'r rheini sydd wedi bod yn gwasanaethu cymunedau ers cenedlaethau, mae llawer o bobl yn mwynhau'r cyfleoedd manwerthu a chymdeithasol y maent yn eu cynnig i ganol y ddinas ac ardaloedd eraill yn Abertawe."

Mae'r cyngor hefyd wedi lansio ymgyrch Siopwch yn Lleol, Siopwch yn Abertawe i annog pobl i siopa'n fwy lleol drwy gefnogi busnesau llai, annibynnol yn eu cymunedau. Mae'r ymgyrch yn cynnwys gwedudalen gyda rhestrau o fanylion busnesau cymunedau sy'n cynnwys Clydach, Gorseinon, Tre-gŵyr, Cilâ, Treforys, Y Mwmbwls, Pontarddulais, Sgeti ac Uplands.

Close Dewis iaith