Dod o hyd i Le Llesol Abertawe croesawgar yn eich ardal chi
Mae cyfeiriadur wedi'i ddiweddaru o leoedd llesol cynnes a chroesawgar yn Abertawe bellach ar gael, ac mae llawer ohonynt yn cynnig gweithgareddau am ddim er mwyn i bobl gymdeithasu.


Mae'r cyfeiriadur eisoes yn cynnwys bron i 70 o Leoedd Llesol Abertawe sy'n cael eu cynnal gan grwpiau gwirfoddol, elusennau a sefydliadau nid er elw mewn cymunedau ar draws y ddinas.
Y gaeaf hwn mae bron i £125,000 ar gael i'w helpu i gynnal ac ehangu'r hyn a gynhigir ganddynt diolch i Lywodraeth Cymru, ac mae'r arian hwn yn rhan o becyn cefnogaeth gwerth £650,000 o dan ymgyrch #YmaIChirGaeafHwn Cyngor Abertawe.
Bydd yn helpu teuluoedd ac unigolion sy'n cael anhawster gyda chostau'r Nadolig, y gaeaf a'r gwyliau ysgol, yn ogystal â phobl sy'n wynebu unigrwydd neu arwahanrwydd ac mae'n cynnwys cymorth bwyd, gweithgareddau a chymorth gyda'r hanfodion.
I weld cyfeiriadur Lleoedd Llesol Abertawe, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/LleoeddLlesolAbertawe