Disgyblion yn dewis enw newydd ar gyfer ysgol arbennig newydd y ddinas
Mae disgyblion wedi helpu i ddewis enw ar gyfer ysgol arbennig newydd yn Abertawe, wrth i gynlluniau ar gyfer yr adeilad newydd sbon i wella cyfleusterau'n sylweddol ac ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac awtistiaeth ddifrifol gymryd cam mawr ymlaen.


Yr wythnos hon, mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo cyllid i benodi contractwr i ymgymryd â gwaith dylunio, cynllunio a pharatoi safle manwl.
Bydd yr ysgol newydd o'r radd flaenaf yn Mynydd Garnlwyd Road yn disodli Ysgol Crug Glas ac Ysgol Pen-y-Bryn gyda chyfleusterau mwy a gwell.
O fis Medi, bydd yr ysgolion hyn yn cyfuno dan un corff llywodraethu a phennaeth, ac er y bydd y ddau safle presennol yn parhau i fod ar agor, ni fydd unrhyw darfu ar ddisgyblion nes bod yr ysgol newydd yn barod.
Mae'r ddwy gymuned ysgol bresennol wedi bod yn rhan o'r broses o ddewis enw ar gyfer yr ysgol newydd, a bydd yn cael ei galw'n Ysgol Calon Lân.
Calon Lân yw un o emynau mwyaf adnabyddus Cymru. Ysgrifennwyd y geiriau gan Daniel James yn y 1890au a rhoddwyd y geiriau ar gân gan John Hughes, yr oedd y ddau ohonynt yn byw yn Abertawe.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, Robert Smith, "Rydym wedi gwneud llawer o waith caled er mwyn cyrraedd y cam hwn ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r cyrff llywodraethu a chymunedau ehangach yn y ddwy ysgol am eu cefnogaeth.
"Bydd cyfle i lywodraethwyr, staff a disgyblion ddweud eu dweud nawr o ran dyluniad a golwg yr ysgol newydd i helpu i sicrhau pontio llyfn i bawb.
"Dyma'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn cyfleusterau ysgolion arbennig yn Abertawe, a phan fydd yn barod, bydd yr ysgol newydd yn gwella addysg i ddisgyblion presennol, yn ogystal â chynnig 100 o leoedd ychwanegol i ddarparu ar gyfer y galw cynyddol am leoedd ysgol arbennig a lleihau'r angen i rai disgyblion gael eu lleoli mewn ysgolion annibynnol a'r tu allan i'r sir."
Sesiwn holi ac ateb
Pam mae angen ysgol arbennig newydd yn Abertawe?
Mae gan Ysgol Crug Glas 55 o leoedd i ddisgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog ar hyn o bryd ac mae gan Ysgol Pen-y-Bryn 195 o leoedd i ddisgyblion ag anawsterau cymedrol i ddifrifol ac i ddisgyblion ag awtistiaeth ddifrifol.
Mae'r ddwy ysgol yn llawn ar hyn o bryd ac mae gan y ddwy adeiladau sy'n dyddio'n ôl i'r 1960au, nad ydynt yn cael eu hystyried yn addas ar gyfer anghenion y dyfodol.
Bydd yr ysgol newydd yn dod â'r rhain at ei gilydd ar un safle, a bydd 100 o leoedd ychwanegol sy'n lleihau'r angen i rai disgyblion gael eu lleoli mewn ysgolion annibynnol a'r tu allan i'r sir.
Beth yw'r buddion i blant a phobl ifanc?
Bydd y cyfleusterau yn yr ysgol newydd yn welliant mawr ar y rhai sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ac yn fwy addas i anghenion dysgwyr.
Bydd y rhain yn cynnwys nodweddion fel ystafelloedd synhwyraidd, ystafelloedd therapi arbenigol, amgylcheddau dysgu allanol therapiwtig a phwll hydrotherapi.
Bydd pob disgybl yn elwa o'r amgylcheddau dysgu dan do ac awyr agored wedi'u gwella.
Beth yw'r buddion i staff?
Yn ogystal â mwynhau amgylcheddau addysgu modern a chyfoes, bydd mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu staff.
Bydd gwell cyfleoedd ar gyfer gweithio amlasiantaeth gan na fydd dwy ysgol ar wahân mwyach.
Bydd cyllideb yr ysgol yn cael ei thargedu mewn ffordd sy'n fwy priodol ac effeithiol o ran y disgyblion, sy'n golygu bod arian yn cael ei wario ar addysg yn hytrach nag ar eitemau sy'n gysylltiedig â'r adeilad.
Beth yw'r buddion i breswylwyr Abertawe?
Bydd yn cynyddu nifer y lleoedd ysgol arbennig sydd ar gael i ddisgyblion yn yr ardal, sy'n golygu y gall mwy o ddisgyblion dderbyn eu haddysg yn Abertawe.
Beth fydd yn digwydd ym mis Medi pan fydd Ysgol Calon Lân yn cael ei ffurfio?
Bydd yr ysgol yn parhau i weithredu ar draws yr holl safleoedd presennol i ddechrau, a bydd strwythurau dosbarth ac athrawon yn aros yr un fath i raddau helaeth, er mwyn sicrhau cyn lleied â phosib o darfu ar ddisgyblion.
Bydd y pennaeth a'r corff llywodraethu newydd yn uno'r ddau grŵp staff a bydd ganddynt un gyllideb ysgol.
Bydd y corff llywodraethu dros dro yn dod yn gorff llywodraethu sengl Ysgol Calon Lân ac, ynghyd â disgyblion a staff, bydd yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu i ddatblygu cynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd.
Ni fydd unrhyw newid o ran trafnidiaeth i'r safleoedd ysgol presennol.
Beth fydd yn digwydd ar ôl hynny?
Bydd yr ysgol yn cael ei hadleoli i'r safle newydd ar Mynydd Garnlwyd Road.
Mae'n anodd i ni bennu'r union ddyddiad nes bod contractwr wedi'i benodi i adeiladu'r ysgol newydd.
Bydd disgyblion yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses bontio, gan ein bod yn ymwybodol ei fod yn hanfodol bwysig sicrhau bod popeth yn mynd yn ei flaen mor ddidrafferth â phosib.
Bydd cyfathrebu rheolaidd a chefnogaeth i staff, disgyblion a theuluoedd.