Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau ar gyfer ysgol arbennig bwrpasol yn cymryd cam ymlaen

Gall ysgol bwrpasol newydd ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ac awtistiaeth ddifrifol gael ei hadeiladu yn Abertawe.

Abc blocks - generic education pic

Mae gan y ddinas ddwy ysgol arbennig ar hyn o bryd - Ysgol Crug Glas lle mae 55 o leoedd i ddisgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog yn Nyfaty ac Ysgol Pen-y-Bryn lle mae 195 o leoedd i ddisgyblion ag anawsterau cymedrol i ddifrifol ac i ddisgyblion ag awtistiaeth ddifrifol.

Mae'r ddwy ysgol yn llawn ac mae gan y ddwy rai adeiladau sy'n dyddio nôl i'r 1960au, gydag Ysgol Pen-y-Bryn wedi'i rhannu dros ddau safle yn Nhreforys and Phen-lan.

Bwriedir adeiladu ysgol newydd o'r radd flaenaf gyda chost amcangyfrifedig o dros £40m yn lle'r rhain, ar dir gerllaw safle presennol Ysgol Pen-y-Bryn ar Mynydd Garnlwyd Road.

Byddai gan yr ysgol newydd, a allai agor yn 2028, 100 o leoedd ychwanegol i ddarparu ar gyfer y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig yn Abertawe, a lleihau'r angen i roi rhai disgyblion mewn ysgolion annibynnol a'r tu allan i'r sir.

Byddai hefyd yn lleihau pwysau ar ysgolion prif ffrwd a'u Cyfleusterau Addysgu Arbenigol.

Fel rhan o'r broses, byddai Ysgol Crug Glas ac Ysgol Pen-y-Bryn yn cael eu huno ond byddai'r ddwy yn aros ar agor ar eu safleoedd presennol, heb darfu o gwbl ar ddisgyblion, nes bod yr ysgol newydd yn barod ymhen pum mlynedd.

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn siarad â llywodraethwyr yn ogystal â phartïon eraill â diddordeb ers tro ac yn eu cyfarfod ddydd Iau, cytunodd Aelodau'r Cabinet i ddechrau ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion.

Close Dewis iaith